Toglo gwelededd dewislen symudol

Addewid hinsawdd

Abertawe wyrddach, sero-net erbyn 2050 - gwnewch addewid a chwaraewch eich rhan!

Mae Cyngor Abertawe'n gweithredu o ran newid yn yr hinsawdd a'r argyfyngau natur, ond rydym yn cydnabod bod angen i bawb weithredu yn awr os ydym am wneud gwahaniaeth go iawn a chyrraedd ein Abertawe dymunol erbyn 2050. 

Wildflowers - blue (cars and Mumbles Head background).
Llofnodom Siarter Cyngor Abertawe ar Weithredu ar yr Hinsawdd ym mis Rhagfyr 2020, sy'n ymrwymiad i weithredu ar newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a natur.

Mae ein partneriaid ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe ymhlith eraill wedi ymrwymo i Siarter Abertawe ar weithredu ar yr hinsawdd, sy'n nodi eu hymrwymiad nhw hefyd.

Rydym yn gwahodd ein dinasyddion, ein busnesau, ein grwpiau cymunedol/gwirfoddol, ein hysgolion a'n pobl ifanc i wneud eu haddewid eu hunain ac ymuno â ni i weithio gyda'n gilydd tuag at Abertawe wyrddach, sero-net erbyn 2050.

Dyma rai syniadau gwych ar gyfer addewidion unigol neu nodwch eich cam gweithredu neu'ch ymrwymiad eich hun fel sefydliad:

Rwy'n addo:

  • Lleihau fy ngyrru trwy gerdded neu reidio beic
  • Siopa'n lleol a chefnogi busnesau lleol
  • Hedfan llai
  • Lleihau fy nefnydd o ynni a fy miliau ynni
  • Newid i gyflenwr ynni adnewyddadwy 100%
  • Ailddefnyddio ac atgyweirio yn hytrach na phrynu eitemau newydd
  • Lleihau gwastraff ac ailgylchu mwy
  • Creu ardal ar gyfer natur yn fy ngardd
  • Plannu coeden
  • Tyfu fy ffrwythau a fy llysiau fy hun
  • Gofyn i fy ffrindiau, fy nheulu a fy nghyflogwr gofrestru ar gyfer yr addewid hefyd

Gwneud addewid hinsawdd Gwneud addewid hinsawdd

Gallwch hefyd addo'ch cefnogaeth trwy ysgrifennu at: Newid yn yr hinsawdd, Cyngor Abertawe, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN. 

Barn yr unigolion a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid yw o anghenraid yn adlewyrchu barn Cyngor Abertawe.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Chwefror 2022