Adfywio Cwm Tawe Isaf
Mae Llywodraeth y DU wedi dyfarnu £20m i Gyngor Abertawe ar gyfer y prosiect hwn fel rhan o'i hagenda ffyniant bro i helpu i adfywio Cwm Tawe Isaf ymhellach.


Mae'r prosiect yn cynnwys tair elfen:
- Adfer mwy fyth o nodweddion treftadaeth safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, yn dilyn yr holl waith a wnaed ar y safle eisoes. Byddai sawl adeilad rhestredig yn cael eu hadfywio, a byddant ar gael at ddefnydd busnes a buddsoddiad newydd gan y sector preifat. Byddai'r safle hefyd yn cael ei gysylltu'n well â chymunedau lleol, er mwyn helpu i adrodd hanes etifeddiaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe wrth genedlaethau newydd.
- Gwella cysylltiadau rhwng afon Tawe a safle'r gwaith copr, wrth ddatblygu cysylltiadau gwell hefyd rhwng y safle a chanol y ddinas. Byddai bwâu'r rheilffordd o oes Fictoria'n cael eu hailddefnyddio i alluogi mynediad at gludiant cyhoeddus gan gynnwys bysus a threnau ac ar yr afon.
- Uwchraddio a gwella Amgueddfa Abertawe, gan wella mynediad a'r profiad i ymwelwyr, gyda mwy o fannau arddangos a dysgu. Bydd y buddsoddiad yn diogelu'r amgueddfa ac yn ei sgîl, bydd elfennau pwysig o'i chasgliadau sy'n cael eu storio ar hyn o bryd yn hen felin dreigl y Gwaith Copr yn cael eu trosglwyddo i'r atyniad treftadaeth hwn yng nghanol y ddinas - sy'n cael ei chlodfori'n eang fel yr amgueddfa hynaf yng Nghymru. Bydd hyn wedyn yn rhyddhau adeilad y felin dreigl yn y gwaith copr ar gyfer adfywiad defnydd cymysg pellach.
Mae dau gais cynllunio newydd gael eu cyflwyno gan y cyngor ar gyfer tai injans Vivian a Musgrave y gwaith copr, ac ar gyfer Sied Locomotif V&S Ltd. No. 1.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2025