Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiad Cyllideb Adran 52

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol (AALl), dan Adran 52 Deddf Fframwaith a Safonau Ysgolion 1998, baratoi Datganiad Cyllideb bob blwyddyn ariannol.

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol (AALl), dan Adran 52 Deddf Fframwaith a Safonau Ysgolion 1998, baratoi Datganiad Cyllideb bob blwyddyn ariannol.

Nodir fformat y Datganiad Cyllideb yn Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002. Rhaid paratoi pob Datganiad Cyllideb mewn tair rhan fel a ganlyn:

  • Rhan 1 yn cynnwys manylion am wariant a gynlluniwyd ar gyfer ysgolion unigol
  • Rhan 2 gwybodaeth mewn perthynas â'r fethodoleg ar gyfer pennu cyfran ysgolion o'r gyllideb
  • Rhan 3 gwybodaeth mewn perthynas â chyfran pob un o ysgolion yr awdurdod o'r gyllideb

Rhaid rhoi copi o'r Datganiad Cyllideb i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir yn yr Awdurdod, a rhaid sicrhau ei fod ar gael i rieni a phobl eraill gyfeirio ato ar bob adeg resymol heb dâl.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Ebrill 2024