Toglo gwelededd dewislen symudol

Adrodd am ddamwain yn y gweithle

Rhaid adrodd am unrhyw ddamweiniau sy'n digwydd yn y gweithle fel y gallwn ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd. Yna, gallwn roi cyngor ar sut i'w atal rhag digwydd eto yn y dyfodol.

Mae'r Rheoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR) yn datgan bod rhaid i chi (y cyflogwr) adrodd am:

  • ddamweiniau difrifol yn y gweithle
  • clefydau galwedigaethol
  • digwyddiadau peryglus (bron â chael damwain)
  • marwolaethau sy'n ymwneud â'r gwaith.

Adrodd am anaf, clefyd neu ddamwain i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Yn agor ffenestr newydd)

Ar gyfer anafiadau sylweddol, gallwch roi gwybod i ni gyntaf cyn cwblhau adroddiad. Os oes achos o farwolaeth sy'n ymwneud â'r gwaith, mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni yn ddi-oed trwy ffonio 01792 635600.

Adrodd y tu allan i oriau gwaith

Ceir gwybodaeth am bryd a sut i adrodd am ddigwyddiadau difrifol a pheryglus y tu allan i oriau gwaith arferol ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Ffyrdd o gysylltu â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Yn agor ffenestr newydd)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Medi 2021