Toglo gwelededd dewislen symudol

Sioe Awyr Cymru 2025: Rhestr Arbennig o Arddangosiadau Awyr yn yr Arfaeth

Byddwch yn barod am benwythnos bendigedig llawn perfformiadau awyr anhygoel a gweithgareddau gafaelgar ar y tir am ddim wrth i Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ddychwelyd i Fae Abertawe ar 5 a 6 Gorffennaf 2025.

Red Arrows

Eleni, bydd y digwyddiad, a drefnir gan Gyngor Abertawe, yn dangos cymysgedd cyffrous o awyrennau hanesyddol ac arddangosiadau milwrol modern manwl, gan gynnwys timau byd-enwog. Mae'r rhestr a gadarnhawyd yn cynnwys:

  • Red Arrows y Llu Awyr Brenhinol
  • Hediad Coffa Brwydr Prydain
  • Tîm Arddangos Tutor y Llu Awyr Brenhinol
  • Typhoon
  • Tîm Raven
  • The Starlings
  • Cerdded ar Esgyll Awyrennau AeroSuperBatics(a gefnogir gan FRF Volvo)
  • Sgwadron Gazelle
  • Melanie Astles yn yr Extra 330
  • Rolls-Royce Spitfire
  • Swordfish (a gyflwynir gan NavyWings)
  • Firebirds
  • Tîm Parasiwtio Red Devils

Yn ogystal ag acrobateg yn yr awyr, mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru'n ddigwyddiad i'r teulu ar raddfa fawr gydag arddangosiadau rhyngweithiol, adloniant ac arddangosfeydd milwrol. Gall ymwelwyr archwilio stondinau a cherbydau milwrol, gan gynnwys tanc plymio'r Llynges Frenhinol, ychwanegiad newydd ar gyfer 2025. Bydd yr ardal hwyl i'r teulu'n cynnwys cymeriadau sy'n cerdded o gwmpas, celf a chrefft, sgiliau syrcas a masnachwyr lleol, gan sicrhau profiad bythgofiadwy i bobl o bob oedran.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae'n anhygoel gweld rhestr mor amrywiol o arddangosiadau awyr yn Sioe Awyr Cymru eleni. Mae'r digwyddiad hwn yn un o uchafbwyntiau calendr haf Abertawe, ac rydym yn disgwyl y bydd yn hynod boblogaidd eto."

Caiff y rhestr gyflawn ar gyfer y digwyddiad ei chyhoeddi'n swyddogol cyn bo hir. Er mwyn sicrhau bod gan ymwelwyr yr wybodaeth ddiweddaraf, bydd yr holl fanylion ar ap pwrpasol y digwyddiad, gan gynnig newyddion ar y pryd, hysbysiadau ac arweiniad hanfodol.

Peidiwch â cholli'r penwythnos bythgofiadwy hwn o gyffro yn yr awyr ac ar y tir. Nodwch y dyddiadau yn y calendr a pharatowch am ddathliad cyffrous o hedfan.

Rhagor o wybodaeth:

·       Tocynnau ar gyfer y bwrdd hedfan - Bwrdd Hedfan Sioe Awyr Cymru

·       Gwybodaeth am Barcio - Parcio - Sioe Awyr Cymru

·       Cau Ffyrdd - Gwybodaeth am gau ffyrdd - Sioe Awyr Cymru

·       Gwefan Swyddogol - Sioe Awyr Cymru - Hedfan dros Fae Abertawe ar 5 a 6 Gorffennaf 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Mehefin 2025