Toglo gwelededd dewislen symudol

Sioe Awyr Cymru'n ennill gwobr y Digwyddiad Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru

Mae Sioe Awyr Cymru, a gynhelir gan Gyngor Abertawe, wedi ennill categori'r Digwyddiad Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru 2024.

Wales Airshow

Mae'r wobr hon yn cydnabod cyfraniad eithriadol y digwyddiad at dwristiaeth a'i statws fel profiad blaenllaw yn y rhanbarth.

Mae Sioe Awyr Cymru, a gynhelir bob blwyddyn yn Abertawe, yn adnabyddus am ei harddangosiadau awyr gwefreiddiol, gan ddenu degau ar filoedd o ymwelwyr o bob rhan o'r DU a'r tu hwnt.

Bydd y cyflawniad hefyd yn golygu y bydd Sioe Awyr Cymru bellach yn cynrychioli de-orllewin Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2025. Cynhelir y digwyddiad cenedlaethol ar 27 Mawrth 2025 yn Venue Cymru yn Llandudno, lle bydd yn cystadlu i gyrraedd y brig yng Nghymru.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth,

"Rydym yn hynod falch bod Sioe Awyr Cymru wedi cael cydnabyddiaeth fel y Digwyddiad Gorau yn ne-orllewin Cymru. Mae'r wobr hon yn dangos gwaith caled a chreadigrwydd pawb sy'n helpu i ddarparu digwyddiad mor nodedig. Mae'r Sioe Awyr bellach yn un o uchafbwyntiau calendr Abertawe, gan ddod â llawenydd i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd wrth hybu ein heconomi leol yn sylweddol.

"Rydym yn falch o gynrychioli de-orllewin Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2025 a byddwn yn parhau i ymdrechu i wneud Bae Abertawe'n gyrchfan y mae'n rhaid ymweld ag ef."

Hoffai Cyngor Abertawe ddiolch i'r holl noddwyr, partneriaid, gwirfoddolwyr a'r gymuned leol am eu cefnogaeth amhrisiadwy wrth wneud Sioe Awyr Cymru'n llwyddiant. Mae'r Cyngor yn edrych ymlaen at arddangos y digwyddiad ar lwyfan cenedlaethol a dathlu twristiaeth Cymru ar ei gorau yn 2025.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Rhagfyr 2024