Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Anrhydedd dinesig i bedwar cyn-Arglwydd Faer

Rhoddir y teitl Henadur Anrhydeddus neu Henadures Anrhydeddus y ddinas i bedwar o gyn-Arglwydd Feiri Abertawe yng nghyfarfod seremonïol y cyngor yr wythnos nesaf

aldermen oct 2022

Cyflwynwyd yr anrhydedd i'r pedwar cyn-Arglwydd Faer sydd hefyd wedi gwasanaethu fel Arglwydd Feiri - Des Thomas, Gareth Sullivan, June Burtonshaw a Mark Child - mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Hydref. Rhoddodd pob un ohonynt y gorau i'w rolau fel cynghorwyr yn yr etholiadau fis Mai diwethaf.

Cyflwynwyd tystysgrif arbennig i bob un ohonynt yn y digwyddiad seremonïol.

Meddai Swyddog Llywyddu'r cyngor, y Cyng. Jan Curtice, "Hoffwn dalu teyrnged i'r pedwar cyn-gynghorydd sy'n cael eu hanrhydeddu drwy dderbyn y teitlau hyn.

"Maent yn cael eu hanrhydeddu i gydnabod y degawdau o wasanaeth y mae pob un ohonynt wedi'i roi i'w hetholwyr a Chyngor Abertawe. Rhyngddynt mae ganddynt dros 142 o flynyddoedd o wasanaeth."

Cyflwynwyd y teitl Henadur Anrhydeddus neu Henadures Anrhydeddus yn Abertawe ym 1972 ac fe'i rhoddir i gyn-gynghorwyr sydd hefyd wedi bod yn Arglwydd Feiri i gydnabod eu gwasanaeth hir ar ôl iddynt roi'r gorau i fod yn aelodau ward.

Ni chânt eu talu am eu rôl ac nid oes ganddynt unrhyw hawliau pleidleisio. Cânt eu gwahodd yn aml i seremonïau dinesig fel y bydd y cyngor yn penderfynu o bryd i'w gilydd. Cânt eu gwahodd hefyd i ddigwyddiadau lle byddai eu gwybodaeth neu eu diddordebau personol yn ychwanegu gwerth at yr achlysur.

Gallai hyn gynnwys urddo Arglwydd Faer, y gwasanaeth Carolau Nadolig, digwyddiadau dathlu a choffaol a seremonïau rhyddid.

Close Dewis iaith