Gwneud cais am arian GGLlPBA
Mae'r cais yn cynnwys dau gam ac mae staff GGLlPBA ar gael i'ch helpu chi ar unrhyw adeg yn ystod y broses ymgeisio.
Gall y GGLlP ariannu prosiectau sydd heb ddechrau eto yn unig. Os oes gwaith eisoes wedi dechrau ar unrhyw elfen o'r prosiect, ni fyddwch yn gymwys am gyllid. Mae'n rhaid i brosiectau gyd-fynd â themâu ac amcanion allweddol y GGLlP ac mae'n rhaid i fuddiolwyr ac allbynnau eich prosiect fod o fewn ardal weithredol y GGLlP yn bennaf.
Rhoddir cyllid y GGLlP ar sail ad-daliadau a bydd cyllid a gymeradwyir yn cael ei ad-dalu ar ôl cyflwyno tystiolaeth o wariant ar y prosiect. Serch hynny, gallwch hawlio yn ystod prosiectau, gam wrth gam, os oes angen.
Asesir prosiectau gan aelodau GGLlPBA sy'n cynnwys rhanddeiliaid lleol o'r diwydiant pysgodfeydd lleol, awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol eraill. Cedwir ceisiadau mor anhysbys â phosib yn ystod y broses ymgeisio. Bydd prosiectau'n cael eu cyhoeddi os ydynt yn cael eu cymeradwyo am gyllid yn unig.
Cam 1 - Y cam cyntaf yw cyflwyno Ffurflen Syniad am Brosiect. Cwblhewch Ffurflen Syniad am Brosiect a'i chyflwyno i GGLlPBA. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosib ar y ffurflen gan ei fod yn ddefnyddiol i fod mor fanwl â phosib yn ystod y cam hwn fel y gallwn ni asesu eich syniad am brosiect yn gywir. Ond, os nad oes gennych yr holl wybodaeth ar hyn o bryd, peidiwch â digalonni, cwblhewch y Ffurflen Syniad am Brosiect a gall yr hyrwyddwr GGLlPBA eich helpu i gasglu'r wybodaeth sy'n ofynnol. Bydd yn gwirio cymhwysedd ac, os ydych yn gymwys, bydd crynodeb dienw o'r Ffurflen Syniad am Brosiect yn cael ei drosglwyddo i fwrdd y GGLlP am sylwadau, awgrymiadau neu welliannau cychwynnol.
Cam 2 - Os cymeradwyir eich Ffurflen Syniad am Brosiect yn dilyn cyfarfod GGLlPBA, gofynnir i chi lenwi ffurflen gais lawn gan ddarparu mwy o fanylion am eich syniad am brosiect. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddiad manwl o gostau, cynllun prosiect sy'n dangos tasgau ac amserlenni, etc. Mae manylion llawn am ofynion i'w gweld yn y cais.