Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n llwyddiant diwylliannol ysgubol ar draws y ddinas
Bywiogwyd canol dinas Abertawe gan Benwythnos Celfyddydau Abertawe'r penwythnos diwethaf, 11 a 12 Hydref, gydag arddangosfa drawiadol o greadigrwydd, cymuned a diwylliant.



Ymddangosodd dros 180 o artistiaid a pherfformwyr mewn 15 o leoliadau a mannau awyr agored, gan gyflwyno dros 300 awr o adloniant diwylliannol am ddim a gyfareddodd preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.
O fawredd hanesyddol Castell Abertawe i ddengarwch croesawgar St David's Place, daeth y ddinas ei hun yn lle chwarae artistig. Y castell eiconig oedd y cefndir dramatig ar gyfer y cerflun Vesselsgan Limbic Cinema, pyramid monolithig yn llawn golau, laserau a mwg a gyfareddodd dros 600 o bobl. Yn y cyfamser, trawsnewidiwyd St David's Place yn llwyfan dawns dynamig, gan ddathlu genres a diwylliannau drwy symudiad a rhythm.
Roedd rhaglen y penwythnos yn cynnwys llu o uchafbwyntiau. Yn Theatr Dylan Thomas, lle llenwyd pob sedd, cyflwynodd Michael Sheen, actor a chyfarwyddwr artistig clodwiw Welsh National Theatre berfformiad cyffrous yn cymharu gweithiau Dylan Thomas ac R.S.Thomas, a ategwyd gan ganeuon hyfryd y cerddor gwerin enwog, Martyn Joseph. Ym Mystwyr Abertawe, daeth dros 6,900 o ymwelwyr i weldcerflun chwe metr o'r haul gan Luke Jerram sef Helios, prif eitem ddisglair yr ŵyl.
Meddai Michael Sheen, actor a chyfarwyddwr artistig yn Welsh National Theatre,
"Mae digwyddiadau fel Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n ffordd wych o ddathlu bywyd diwylliannol dinas, ei diwylliant yw ei chalon, ac mae gan y ddinas hon yn arbennig fywyd diwylliannol cyfoethog yr wyf i, gobeithio, bellach yn ychwanegu ato gan fod gan Welsh National Theatre gartref newydd yn Abertawe."
Canmolwyd effaith y digwyddiad gan Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe,
"Mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe unwaith eto wedi dangos pŵer diwylliant i ddod â phobl ynghyd, ysbrydoli creadigrwydd ac arddangos y doniau anhygoel sydd gennym yma yn Abertawe. Mae'n dyst i holl waith caled ein timau a'n partneriaid fod y ddinas wedi'i thrawsnewid yn ddathliad bywiog o'r celfyddydau."
Cyflwynodd Abertawe Greadigol brynhawn dynamig o raglennu yn The Pop Up, a oedd yn canolbwyntio ar hanes Abertawe a diwydiant y sgrin. Roedd yn cynnwys sgwrs â'r awdur a'r cynhyrchydd arobryn, Russell T Davies OBE, sydd newydd dderbyn Gwobr Cyflawniad Eithriadol BAFTA Cymru 2025. Meddai "Mae pawb yn mynd i Ŵyl Caeredin, beth am ddod i Ŵyl Gelfyddydau Abertawe? Mae'n hyderus, mae'n swnllyd, pam lai? Daliwch ati Benwythnos Celfyddydau Abertawe!"
Roedd Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth fyw, celfyddydau gweledol, perfformiad, arddangosfeydd a gweithdai ymarferol i bob oed. Profodd cynulleidfaoedd bopeth, o berfformiadau yn yr awyr gan Organised Kaos a gosodweithiau i ymgolli ynddynt gan Upshotography, i waith theatraidd beiddgar gan Out Loud Arts Collective a chelf fyw gan Nazma Botanica. Cafwyd setiau byw ar lwyfan cerddoriaeth Orchard Street gan gerddorion fel Kizzy Crawford, CITIES, Aleighcia Scott, tra bu artistiaid a chwmnïau fel Jason & Becky, Jenny Alderton, Jamie White, Ren Wolfe, Uchelgais Grand a Theatr na nÓg yn cyfrannu at ddathliad cynhwysol o greadigrwydd Cymreig.
Roedd sesiynau Abertawe Greadigol yn cynnwys dangosiadau a sgyrsiau â gwneuthurwyr ffilmiau fel Amani Khan, Theo Tennant a Charlotte James yn ogystal â chomisiynydd a chynhyrchwyr y BBC fel Sian Harris, Christina Macaulay a Sally Weale. Gwnaed y sesiynau'n bosib drwy gydweithio â phartneriaid allweddol y diwydiant gan gynnwys y BBC, Ffilm Cymru, Its MyShout, Screen Alliance Wales ac Yeti TV.
Roedd y lleoliadau a fu'n cymryd rhan yn cynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian, Urban HQ, Oriel Mission, Oriel a bar Elysium, Mystwyr Abertawe, Theatr Volcano, The Pop Up yn Princess Way, GS Artists, Theatr Dylan Thomas, Hippos, a hyd yn oed cartref Anna Barratt ei hun a oedd yn dangos ei gwaith am y tro cyntaf. Daeth lleoliadau awyr agored fel Castell Abertawe, Orchard Street a St David's Place â bywiogrwydd a lliw i ganol y ddinas ar benwythnos hyfryd o hydref.
Ariannwyd Penwythnos Celfyddydau Abertawe gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac fe'i cyflwynwyd gan Wasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe gyda chefnogaeth gan y cynhyrchwyr digwyddiadau, Deryncoch.