Toglo gwelededd dewislen symudol

Dathliad awyr agored yn dod â phobl sy'n dwlu ar gerddoriaeth ynghyd

Amffitheatr Abertawe, 16 - 18 Awst

amphitheatre city centre

Mae Cyngor Abertawe'n lansio digwyddiad diweddaraf Abertawe, AMPLITUDE, sef dathliad tri diwrnod o bopeth sy'n ymwneud â cherddoriaeth, a gynhelir yn Amffitheatr Abertawe rhwng y Marina a'r LC. Mae'r dathliad cyffrous hwn yn rhan o ymrwymiad Cyngor Abertawe i fuddsoddi mewn mannau perfformio awyr agored, ar ôl derbyn cyllid gwerth £180,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cynhelir y digwyddiad o ddydd Gwener 16 Awst i nos Sul 18 Awst a bydd rhestr wych o adloniant, gan gynnwys ffilmiau ar thema cerddoriaeth boblogaidd a pherfformiadau byw gan rai o artistiaid mwyaf talentog yr ardal. Yn goron ar y cwbl, gallwch ddod i Amplitude i fwynhau'r digwyddiad AM DDIM.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor,"Dyma newyddion gwych i ganol y ddinas a'r amffitheatr. Bydd y rhaglen barhaus o waith adnewyddu'n sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ganolbwynt bywiog ar gyfer cynulliadau cymunedol a digwyddiadau diwylliannol am flynyddoedd i ddod.    

"Mae hyn i gyd yn rhan o fuddsoddiad parhaus y cyngor ym myd diwylliannol ein dinas, sy'n creu digwyddiadau gwych am ddim ac yn rhoi cyfle i bawb fwynhau cerddorion talentog lleol, gan gefnogi busnesau lleol drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas a'r cyffiniau.

"Ar ben hynny, os ydych yn byw yn Abertawe, byddwch yn gallu teithio i'r lleoliad am ddim ar y bws os bydd eich taith yn dechrau cyn 7pm."

Bydd modd prynu lluniaeth, gan gynnwys bar trwyddedig a barbeciw, drwy gydol yr ŵyl, gan sicrhau y bydd pob ymwelydd yn gallu ei mwynhau i'r eithaf.

Dewch i ymuno yn y dathliad hwn o gerddoriaeth fyw, sy'n dangos pobl fwyaf talentog ac ysbryd cymunedol Abertawe. Ceir rhagor o wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am amserlen Amplitude drwy fynd i wefan Joio Bae Abertawe: croesobaeabertawe.com

Nodiadau i Olygyddion:

Rhaglen y Digwyddiad:

Dydd Gwener 16 Awst: Bydd gwledd o sinema'n dechrau'r digwyddiad:

  • 3pm: School of Rock (12A)
  • 7pm: Bohemian Rhapsody (12A)

Dydd Sadwrn 17 Awst: Dewch i fwynhau'r diwrnod cyntaf o gerddoriaeth fyw:

  • 1pm - 3pm: Dave Cottle a Sarah Meek
  • 3pm - 5pm: Bella Collins
  • 5pm - 7pm: The Orange Circus Band
  • 7pm - 9pm: The Chris Keys Band

Dydd Sul 18 Awst: Bydd rhagor o berfformiadau bendigedig yn dod ag Amplitude i ben:

  • 1pm - 3pm: The Groucho Club
  • 3pm - 4pm: Triawd Ross Hicks (Three Elms)
  • 4pm - 5pm: Dark and Twisties
  • 5pm - 7pm: The Ripping Cones
  • 7pm - 9pm: Disco Panther

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Awst 2024