Cyhoeddi Who's Molly fel y brif act yng ngŵyl gerddoriaeth am ddim Amplitude Abertawe sy'n para am ddeuddydd ym mis Awst
Mae pethau gwych i ddod yn Abertawe'r haf hwn wrth i'r band indi-roc o Gymru, Who's Molly, gael ei gyhoeddi fel y brif act y Amplitude, gŵyl gerddoriaeth am ddim sy'n para am ddeuddydd yn amffitheatr hanesyddol Abertawe ym mis Awst.

Roedd y band o Abertawe wedi cefnogi McFly yng ngŵyl Tunes on the Bay yn ddiweddar, gan dderbyn canmoliaeth fawr.
Bydd Amplitude yn dychwelyd am yr ail flwyddyn ar 16 a 17 Awst, ac mae'n addo penwythnos bythgofiadwy o gerddoriaeth fyw, ysbryd cymunedol a dathliadau'r haf. Bydd y digwyddiad yn cynnwys rhestr amrywiol o ddoniau lleol a chenedlaethol, a bydd Who's Molly yn dod â'r sioe i ben ar y nos Sadwrn gyda'i sain nodweddiadol.
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth,"Rydyn ni'n gyffrous iawn i groesawu Who's Molly fel ein prif act. Mae gan y band lawer o ddilynwyr, diolch i'w berfformiadau byw pwerus llawn egni, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y band yn serennu ar lwyfan Amplitude. Mae dod â cherddoriaeth fyw am ddim i'n dinas yn creu mannau cymunedol bywiog, yn ogystal â chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi ein byd cerddoriaeth ar lawr gwlad a rhoi llwyfan i ddoniau lleol ddisgleirio."
Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Gyngor Abertawe, ac mae'r artistiaid eraill yn cynnwys Daisy, Whilbur, Kizzy Crawford, Siglo 6 a bydd y grŵp ffync enwog, Disco Panther, yn dod â'r penwythnos i ben ar nos Sul am yr ail flwyddyn.
Am y tro cyntaf eleni, bydd Amplitude a Chyngor Abertawe hefyd yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid cerddoriaeth annibynnol ar lawr gwlad yn y ddinas i gynnal partïon ar ôl i'r digwyddiadau ddod i ben ar nos Wener a nos Sadwrn. Mae'n bwysig nawr, yn fwy nag erioed, ein bod yn cefnogi byd cerddoriaeth lleol Abertawe a'r lleoliadau sy'n ei gynnal drwy'r flwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y rhestr lawn o berfformwyr, dilynwch @joiobaeabertawe neu ewch i'r wefan yn www.croesobaeabertawe.com