Toglo gwelededd dewislen symudol

Amserlen cadw cofnodion

Mae ein cronfa ddata cadw cofnodion corfforaethol yn nodi'r cyfnod y mae data personol yn cael ei gadw.

I grynhoi'r gofynion cyfreithiol, mae Erthygl 5 (e) y GDPR yn nodi ni fydd data personol yn cael ei gadw am hwy nag sy'n angenrheidiol at ddibenion ei brosesu.

Mae'r amserlen nodi am ba hyd y mae angen cadw'r data, y pwynt sbardun ar gyfer ei gadw ac a ddylai'r cofnodion gael eu hadolygu neu eu dinistrio ar ddiwedd y cyfnod hwn, ac mewn rhai achosion a ddylent gael eu cadw'n barhaol neu eu trosglwyddo i'r archifau.

Pam mae angen amserlen cadw cofnodion corfforaethol arnom?

Mae'r amserlen hon yn rhan bwysig o strategaeth y cyngor i reoli ei gofnodion a'i wybodaeth. Pam?

  • Mae'n creu ymagwedd gyson ar draws yr awdurdod at gadw cofnodion
  • Mae'n nodi cofnodion pwysig y mae angen eu cadw'n barhaol
  • Mae'n rhoi caniatâd i ddinistrio'r cofnodion nad oes angen eu cadw'n barhaol
  • Mae'n sicrhau nad yw cofnodion yn cael eu dinistrio cyn amser pan fydd eu hangen o hyd na'u cadw am gyfnod hwy na'u dyddiad dinistrio oherwydd ansicrwydd o ran am faint o amser y dylid eu cadw
  • Mae'n helpu'r awdurdod i gydymffurfio â'r Deddfau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data, a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).  Mae ganddo hefyd rôl wrth gefnogi llywodraethu agored a thryloyw.

Amserlen cadw cofnodion Cyngor Abertawe (PDF, 1 MB)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Chwefror 2024