Anfon e-byst yn ddiogel
I sicrhau na fydd data'n cael ei ryng-gipio pan gaiff e-byst eu hanfon yn allanol, mae'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau eraill o'r sector cyhoeddus i gyflwyno gwasanaeth e-byst diogel.
Mae e-bost yn brif offeryn cyfathrebu ac yn alluogwr allweddol ar gyfer cyfnewid data. Mae'n galluogi gweithio cydweithredol ac ymatebion cyflymach/mwy deallus i anghenion dinasyddion. Fodd bynnag, gall e-byst weithiau gynnwys data personol a sensitif a allai arwain at niwed i enw da neu niwed ariannol be pai'n cael ei golli.
Mewn byd lle rydym am drin data'n gyfrifol a bodloni gofynion y GDPR, a chan ystyried y bydd y gwasanaethau GCSx cyfredol yn dod i ben yn fuan, mae dull newydd o sicrhau diogelwch ac ansawdd e-byst wedi cael ei ddatblygu.
Gweithio gyda'n gilydd - e-byst newydd sydd wedi'u diogelu gan TLS
Protocol sy'n darparu preifatrwydd rhwng gwasanaethau cyfathrebu yw TLS. Pan fydd gweinydd a chleient Abertawe'n cyfathrebu â'i gilydd, bydd TLS sydd wedi'i ffurfweddu'n dda'n sicrhau na fydd trydydd parti'n gallu clustfeinio nac ymyrryd ag unrhyw neges.
Yn syml, gall staff anfon e-byst at unrhyw un yn y sefydliadau hyn gan wybod y byddant yn ddiogel ac ni fyddant yn cael eu rhyng-gipio.