Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ansawdd aer

Mae ansawdd aer da yn bwysig i'n hiechyd ac ansawdd ein bywydau. Os oes gennych iechyd da, ni fydd lefelau'r llygredd aer yn y DU yn peri unrhyw sgîl-effeithiau tymor byr difrifol fel arfer.

Ar adegau prin gall lefelau llygredd uchel iawn beri llid i lygaid rhai pobl. Gall achosi peswch hefyd a gall anadlu fod yn fwy poenus.

Mae pobl ag afiechydon ysgyfaint neu anhwylderau calon mewn mwy o berygl o lygredd aer, yn enwedig y rhai sy'n oedrannus. Gall cynnydd yn nifer y rhai sy'n mynd i'r ysbyty a marwolaethau'r rhai sy'n ddifrifol sâl gynyddu wrth i lefelau llygredd yn yr atmosffer godi.  

Gall llygredd aer achosi pyliau ymhlith y rhai ag asthma neu eu gorfodi i ddefnyddio eu mewnanadlwyr yn amlach. Fodd bynnag, nid oes fawr o dystiolaeth bod llygredd aer yn peri i asthma ddatblygu. Os yw'ch plentyn yn asthmatig, dylai fod yn gallu cymryd rhan mewn ymarfer corfforol o hyd ond efallai y bydd angen defnyddio ei fewnanadlwr yn fwy cyn dechrau. Ni ddylai fod angen i blant osgoi mynd i'r ysgol oherwydd asthma.

Bydd smygu'n cael llawer mwy o effaith ar eich iechyd na llygredd aer. Os ydych yn rhoi'r gorau i smygu, rydych yn llai tebygol o ddioddef afiechydon ysgyfaint a chalon y gall lefelau llygredd effeithio arnynt. Bydd rhoi'r gorau i smygu hefyd yn lleihau'r perygl y byddwch yn dioddef effeithiau tymor byr llygredd aer.

Rheoli ansawdd aer

Mae'n ddyletswydd statudol ar y cyngor i adolygu ac asesu ansawdd aer yr ardal a nodi'r safonau a'r amcanion ansawdd aer.

Pennodd Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 safonau ar gyfer saith llygrydd allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys bensen, 1,3-bwtadien, carbon monocsid, plwm, nitrogen deuocsid, gronynnau (PM10) a sylffwr deuocsid. Rydym wedi cynnal adolygiad ac asesiad aml-gam o ansawdd aer yn Abertawe. Fel rhan o hyn rydym wedi nodi'r ardaloedd hynny lle byddai'r lefelau llygredd yn uwch na'r amcanion cenedlaethol. Datganwyd Ardal Rheoli Ansawdd Aer yr Hafod (NO2) gan y byddai'r Hafod yn debygol o fethu amcan statudol NO2.

Gwefan ansawdd aer Abertawe

Mae gwefan data ansawdd aer Abertawe'n darparu data ansawdd aer amser cyfredol a data meteorolegol o'r 5 gorsaf fonitro awtomatig a pharhaus yn Abertawe (gwefan allanol).

Adroddiadau rheoli ansawdd aer lleol

Mae ansawdd aer yn Abertawe'n cael ei fonitro'n barhaus. Mae'n ofynnol i ni gyflwyno adroddiadau rheolaidd sy'n rhan o'r broses adolygu ac asesu i ddangos sut mae ansawdd aer yn yr ardal yn bodloni'r safonau a osodwyd.