Archwiliadau iechyd a diogelwch
Cynhelir archwiliadau i sicrhau bod busnesau a gweithleoedd yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau.
Swyddog lleol fydd yn archwilio'r busnesau canlynol:
- manwerthu
- rhai warysau
- y rhan fwyaf o swyddfeydd
- gwestai
- arlwyo
- chwaraeon
- hamdden
- gwasanaethau defnyddwyr
- mannau addoli
Swyddog o'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fydd yn archwilio pob busnes arall.
Rhesymau dros archwilio
- nodi unrhyw beryglon ac asesu unrhyw risgiau
- asesu rheoliadau iechyd a diogelwch a'u heffeithiolrwydd
- sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth iechyd a diogelwch
- cynnig cyngor ac arweiniad.
Pryd cynhelir yr ymgynghoriad?
Fel arfer bydd y swyddog archwilio yn gwneud apwyntiad cyn ei ymweliad (er mae'n bosib na fydd hyn yn digwydd bob tro) gan y bydd angen siarad â'r person sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch y safle.
Mae gan swyddogion archwilio hawl gyfreithiol i gael mynediad i'r safle ar bob adeg resymol. Mae gwrthod mynediad yn dramgwydd troseddol, a gosbir drwy ddirwy sylweddol neu gollfarn.
Pa mor aml y cynhelir archwiliadau?
Archwilir eiddo risg uchel unwaith y flwyddyn, ac archwilir eiddo risg isel yn llai aml neu byddant yn derbyn ffurflen hunanasesu iechyd a diogelwch i'w chwblhau.
Gellir cynnal archwiliadau er mwyn ymateb i ddamwain neu gŵyn hefyd.