Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Argyfwng sifil posibl Awdurdod Iechyd Porthladd

Mae'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl yn darparu un fframwaith ar gyfer amddiffyn sifil yn y DU. Mae Rhan 1 o'r Ddeddf a'r rheoliadau ategol a'r canllawiau statudol ynghylch parodrwydd am argyfwng yn sefydlu rolau a chyfrifoldebau clir i'r rheini sy'n cymryd rhan ar lefel leol.

Mae AIP Bae Abertawe yn cael ei ystyried gan y Ddeddf fel ymatebwr Categori 1 ac felly mae'n ofynnol ei fod yn:

  • asesu'r risg y bydd argyfyngau'n digwydd ac yn defnyddio hyn i lywio cynlluniau wrth gefn
  • rhoi cynlluniau brys ar waith
  • rhoi trefniadau parhad busnes ar waith
  • rhoi trefniadau ar waith er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd a chynnal trefniadau er mwyn rhybuddio, hysbysu a chynghori'r cyhoedd os bydd argyfwng
  • rhannu gwybodaeth ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydlynu
  • cydweithredu ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydlynu ac effeithlonrwydd

Daw sefydliadau Categori 1 a 2 at ei gilydd i sefydlu fforymau lleol Cymru Gydnerth sy'n helpu cydweithrediad a chydlyniad lleol.

Mae Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe yn aelod o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y De sy'n bartneriaeth amlasiantaeth o gynrychiolwyr o wasanaethau cyhoeddus lleol, gan gynnwys awdurdodau lleol, gwasanaethau brys, Iechyd Cyhoeddus Cymru a CNC a Llywodraeth Cymru.

Mae Swyddogion yn mynd i gyfarfodydd y Grŵp Cydlynu a Hyfforddi a'r Grŵp Risgiau'n rheolaidd.