Abertawe am anrhydeddu ein Lluoedd Arfog
Bydd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mike Day, ac arweinwyr lleol eraill yn talu teyrnged i'r rheini sydd wedi gwasanaethu eu gwlad yn y lluoedd arfog mewn seremoni arbennig yn Rotwnda Neuadd y Ddinas Abertawe ddydd Sadwrn.
Bydd y Cyng. Day yn ogystal â Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y cyngor, y Cyng. Wendy Lewis, Ei Mawrhydi yr Arglwydd Raglaw Louise Fleet YH ac Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Stephen Rogers, yn talu teyrnged i'r rheini sydd wedi gwasanaethu fel uchafbwynt Wythnos y Lluoedd Arfog.
Cynhelir y teyrngedau yn Rotwnda Neuadd y Ddinas am 11am a bydd cynrychiolwyr o'r lluoedd arfog, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr ac unedau milwyr lleol hefyd yn bresennol. Mae croeso i breswylwyr fod yn bresennol.
Meddai'r Cynghorydd Day, "Diwrnod y Lluoedd Arfog yw cyfle'r gymuned i ddweud 'diolch' i'r rheini yn y gwasanaethau arfog sydd wedi gwasanaethu ac sy'n gwasanaethu eu gwlad a'u cymunedau ar hyn o bryd.
"Er ein bod yn meddwl yn awtomatig am eu rôl mewn sefyllfaoedd o wrthdaro, mae llawer o'u gwaith yn cynnwys y dasg bwysig o gadw'r heddwch, cymorth dyngarol ac, fel rydym wedi'i brofi yn y blynyddoedd diwethaf, darparu gwasanaethau hanfodol ar y cyd â'n gwasanaethau iechyd a brys."
"Rwy'n gwybod bod eu cymorth wedi gwneud gwahaniaeth mawr i Fwrdd Iechyd Bae Abertawe yn ystod y pandemig a rhaglen frechu COVID-19.
"Mae llawer o ddynion a menywod yr ardal hon yn rhan o'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu mewn amrywiaeth eang o rolau.
"Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni'n gyfle i ddod ynghyd i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'u hymrwymiad a'u haberth. Mae'n ddyled na allwn ei had-dalu, ond gallwn ddangos ein cefnogaeth. Mae'r cyngor wedi penodi Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, ac mae'r Cynghorydd Wendy Lewis wedi arwain yn y gwaith o gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan y cyngor yn ei Gyfamod y Lluoedd Arfog."
Mae'r cyngor yn falch o chwifio baner Diwrnod y Lluoedd Arfog trwy'r wythnos ar ei adeiladau dinesig. Yn ogystal â hyn, caiff Neuadd y Ddinas ei goleuo'n goch, yn wyn ac yn las gyda'r hwyr ar 25 Mehefin.
Meddai'r Cyng. Lewis, "Mae Cyngor Abertawe bob amser wedi sefyll ochr yn ochr â'r Lluoedd Arfog, gan gefnogi cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a'r rheini sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'u teuluoedd. Er bod y diwrnod coffa hwn yn bwysig, mae ein hymrwymiad iddynt fel cymuned ac fel cyngor yn bwysig trwy'r flwyddyn.
" Eleni, wrth gwrs, rydym yn nodi 40 o flynyddoedd ers Rhyfel Ynysoedd Falklands y bu personél y Lluoedd Arfog o Abertawe a Chymru yn gwasanaethu ynddo. Ni â'u cofiwn hwy."
Dylai unrhyw un sydd am fod yn bresennol yn y seremoni ddydd Sadwrn 25 Mehefin 2022 am 11.00am e-bostio lord.mayors.office@abertawe.gov.uk