Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe'n barod i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mae Abertawe'n gwneud mwy nag erioed o'r blaen i anrhydeddu'r rheini sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain - a bydd cyfle mawr arall ar 28 Mehefin i'r cyhoedd ddangos ei gefnogaeth.

armed forces day stock image

Byddwn yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru gyda diwrnod hwyl, gorymdaith a gwasanaeth eglwys yng nghanol y ddinas a drefnwyd gan y lluoedd arfog gyda chymorth Cyngor Abertawe a grwpiau lleol eraill.

Y penwythnos canlynol fydd cyn-filwr, eu teuluoedd ac elusennau sy'n ymwneud â'r Lluoedd Arfog yn ymddangos yn y Pentref Cyn-filwyr yn Sioe Awyr Cymru, gyda chefnogaeth gan y Lleng Brydeinig Frenhinol.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y cyngor, "Mae Cyngor Abertawe'n falch o gefnogi ein lluoedd arfog a'r gymuned o gyn-filwyr. Eleni bydd y genedl yn nodi 80 o flynyddoedd ers diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop felly bydd y digwyddiadau'n rhai arbennig iawn.

"Trefnir y digwyddiadau i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog gan y lluoedd arfog eu hun, yn seiliedig ar yr hyn y maent am ei weld ar y diwrnod. Mae'r cyngor yn eu cefnogi gyda'r holl gymorth y mae ei angen arnynt."

Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 28 Mehefin yn cynnwys diwrnod hwyl y lluoedd arfog rhwng 12pm a 4pm yn St David's Place a fydd yn cynnwys stondinau gwybodaeth yn ogystal â cherddoriaeth ac adloniant gan amrywiaeth o westai ar lwyfan a adeiladwyd yn arbennig.

Am 10am fydd gwasanaeth yn Christchurch. Yn dilyn hyn fydd gorymdaith y lluoedd arfog drwy ganol y ddinas i St David's Place o 11.15am. Bydd y rheini sy'n cymryd rhan yn yr orymdaith yn cwrdd y tu allan i The Butcher's Arms ar Stryd Rhydychen. Bydd y saliwt yn digwydd ar Stryd Rhydychen gyferbyn â phrif fynedfa Marchnad Abertawe.

Trefnir y digwyddiadau gan Sgwadron Trafnidiaeth 223 Catrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol o West Cross. Dyluniwyd y digwyddiadau i ganiatáu pob rhan o deulu'r gwasanaeth -  personél rheolaidd ac wrth gefn, cadlanciau, cyn-filwyr a'u teuluoedd - i ddathlu wrth gael eu cefnogi gan y cyngor a phobl eraill.

Noddir y digwyddiad gan archfarchnad Tesco.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Mehefin 2025