Toglo gwelededd dewislen symudol

Y ddinas yn sefyll gyda'i gilydd i gofio'r rhai sy'n gwasanaethu

Mae cymunedau ar draws y ddinas wedi sefyll mewn distawrwydd wrth i Abertawe gofio'r rhai a fu farw wrth amddiffyn eu gwlad.

armistice day 2024

Ddydd Sul a dydd Llun, safodd cannoedd i fyfyrio'n dawel ger y Senotaff ar lan y môr ar gyfer distawrwydd dwy funud cenedlaethol i nodi Sul y Cofio a Dydd y Cadoediad ar 11 Tachwedd, yn y drefn honno.

Talodd pobl mewn llawer o fusnesau, cartrefi a chofebion eraill o amgylch y ddinas eu teyrngedau hefyd yn ystod y gwasanaethau coffa blynyddol.

Roedd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Paxton Hood-Williams, Arweinydd y Cyngor Rob Stewart, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor, y Cyng. David Hopkins ac Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant, Elliott King, yn bresennol yn Senotaff Abertawe ar 11 Tachwedd. Roedd Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, y Cynghorydd Wendy Lewis a gwŷr pwysig eraill yn bresennol i gynrychioli pobl Abertawe.

Roedd Mal Pope yn St David's Place ar 11 Tachwedd i gynnal digwyddiad Abertawe'n Cofio a drefnwyd gan y Cyngor, ac roedd y Dirprwy Arglwydd Faer, y Cynghorydd Wendy Fitzgerald a'r Dirprwy Arweinydd ar y Cyd, y Cynghorydd Andrea Lewis hefyd yn bresennol.

Bore ddoe am 7.15am, gosododd yr Arglwydd Faer a'r Cynghorydd Wendy Lewis dorchau ar drên GWR i Lundain ar gyfer y seremoni 'Poppies to Paddington'.

Meddai'r Cyng. Hood-Williams, "Mae dwy funud o fyfyrio'n dawel ar 10 a 11 Tachwedd yn symbol o'n diolchgarwch i'r rhai a wynebodd perygl i amddiffyn ein rhyddid, a'r rhai sy'n dal i wneud hynny heddiw.

"Mae'r ddwy funud hyn sy'n cael eu rhannu gan bobl ar draws Abertawe a gweddill y DU ar yr un pryd hefyd yn ein hatgoffa o'n treftadaeth o aberth ac ymdrech a rennir."

Roedd yr Arglwydd Faer yn bresennol yn y Gwasanaeth Coffa yn y Senotaff ddoe (dydd Sul), gyda chynghorwyr yn bresennol yn eu digwyddiadau Coffa yn eu wardiau eu hunain.

Cynhaliwyd Gorymdaith y Cofio Abertawe ar Stryd Rhydychen cyn y Gwasanaeth Coffa blynyddol yn Eglwys y Santes Fair, ac roedd y gwahoddedigion a oedd yn bresennol yn cynnwys yr Arglwydd Faer, Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinwyr ar y Cyd, Andrea Lewis a David Hopkins, y Cynghorydd King a'r Cynghorydd Wendy Lewis.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Roedd hi'n fraint i ni, fel Cynghorwyr, gael bod yn rhan o wasanaethau coffa sy'n adrodd hanes aberth a gwasanaeth ein lluoedd arfog.

"Ddydd Sul, roedd cynghorwyr mewn digwyddiadau ar draws Abertawe fel cynrychiolwyr lleol i fynegi diolchgarwch ein cymunedau i gyn-filwyr ac aelodau presennol y lluoedd arfog am yr hyn y maent yn ei wneud i ni. Ymunodd llawer o bobl eraill â nhw ar gyfer un o ddigwyddiadau pwysicaf y flwyddyn."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Tachwedd 2024