Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Arolwg Cenedlaethol Cymru - gwybodaeth o Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg mawr ledled Cymru a gynhelir gan Lywodraeth Cymru.  Dechreuodd ym mis Ionawr 2012 ac fe'i cynhaliwyd wyneb yn wyneb yng nghartrefi pobl yn wreiddiol.

Ar gyfer y rhan fwyaf o flynyddoedd, cwblhawyd yr arolwg bob blwyddyn gan oddeutu 11,000 - 12,000 o bobl 16+ oed yng Nghymru a ddewiswyd ar hap, gyda maint y sampl ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yn gymesur â'i phoblogaeth yn fras.

Mae'r arolwg yn cynnwys nifer o bynciau, gan ofyn i bobl am eu barn ar amrywiaeth o faterion sy'n effeithio arnynt a'u hardal leol.  Defnyddir rhai o'r canlyniadau fel dangosyddion ar gyfer lles pobl ac i fesur cynnydd tuag at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae dolen i brif wefan Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i'w gweld isod:

Arolwg Cenedlaethol Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Mae'r dudalen yn cynnwys dolenni i'r canlynol:

  • Dangosydd canlyniadau: lle gall defnyddwyr bori drwy'r pynciau sydd ar gael, neu chwilio am gwestiynau drwy nodi gair allweddol neu ymadrodd.
  • Canlyniadau fesul pwnc: rhestr o'r meysydd pwnc eang a gynhwyswyd yn yr arolwg, gan gynnwys dolenni i'r adroddiadau mewn perthynas â'r pwnc hwnnw fesul blwyddyn arolwg.
  • Canlyniadau fesul blwyddyn: hyd at y flwyddyn ddiweddaraf o ganlyniadau cyhoeddedig, sef 2022-23.  Mae gwybodaeth gefndir bellach am yr arolwg, datblygiadau ers 2012 a chynlluniau ar gyfer y dyfodol i'w gweld isod.
  • Gwybodaeth gefndir: gan gynnwys holiaduron a gwybodaeth dechnegol.

Datblygu Arolwg Cenedlaethol

2012-2016:  Cyhoeddwyd y canlyniadau cychwynnol lefel awdurdod lleol ar gyfer blwyddyn lawn gyntaf y gwaith maes (mis Ebrill 2012 tan fis Mawrth 2013) gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2013. Roedd canlyniadau arolygon 2013-14 a 2014-15 wedi dilyn.Mae nodiadau briffio a ffeiliau data ar gyfer y blynyddoedd cychwynnol hynny, sy'n rhoi crynodeb o'r data a gyhoeddwyd ar gyfer yr ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru gan gynnwys Abertawe, ar gael. Fodd bynnag, oherwydd adolygiad o arolygon cymdeithasol ar raddfa fawr yng Nghymru, nid oedd Arolwg Cenedlaethol yn 2015-16. 

2016-2020:  O 2016 ymlaen, roedd ail-lansiad Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi disodli pum arolwg a gomisiynwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru a thri o'r cyrff a oedd yn ei noddi (Cyfoeth Naturiol Cymru, Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru); sef yr Arolwg Cenedlaethol, Arolwg Iechyd Cymru, yr Arolwg Oedolion Actif, Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru ac Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru. Cyhoeddwyd canlyniadau cyntaf yr arolwg newydd (mis Ebrill 2016 i fis Mawrth 2017) ym mis Mehefin 2017, a chyhoeddwyd prif ganlyniadau arolygon dilynol hefyd yn y mis Mehefin neu'r mis Gorffennaf yn dilyn diwedd blwyddyn yr arolwg, fel arfer.

2020-2024:  Roedd pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar arolwg 2020-21 a chyhoeddwyd y data mewn cyfres o arolygon misol neu chwarterol ar wahân ar gyfer y cyfnod o fis Mai 2020 i fis Mawrth 2021.  Oherwydd y gwahaniaeth yn y ffordd y cynhaliwyd yr arolwg (dros y ffôn yn lle wyneb yn wyneb, fel yn flaenorol), ac oherwydd newidiadau posib oherwydd y pandemig, cynghorir mwy o bwyll wrth wneud cymariaethau uniongyrchol rhwng arolygon ar gyfer y cyfnod hwn.  Aeth yr allbynnau o arolygon 2021-22 a 2022-23 yn ôl i fod yn rhai blynyddol (mis Ebrill i fis Mawrth), ond cynhaliwyd yr arolygon dros y ffôn o hyd yn bennaf.

Arolwg Cenedlaethol 2022-23 yw'r arolwg diweddaraf y mae data ar gael ar ei gyfer, ac mae dolen i'r prif ganlyniadau isod:

Arolwg Cenedlaethol Cymru prif ganlyniadau: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 (Yn agor ffenestr newydd)

Ni chynhaliwyd arolwg yn 2023-24 oherwydd newid contractwr.

2024 ymlaen

Ailddechreuodd gwaith maes ym mis Ebrill 2024.  Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi adrodd am ostyngiad mewn cyfraddau ymateb ar gyfer 2024-25, sy'n debygol o gyfyngu ar adrodd ar gyfer is-grwpiau llai ac ar lefel awdurdod lleol, er nad yw manylion pellach ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar ddadansoddiad ac allbynnau yn hysbys eto. Disgwylir i ganlyniadau 2024-25 gael eu cyhoeddi am y tro cyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2025.

Yn y dyfodol, bydd ymagwedd ar-lein yn gyntaf at yr arolwg, er mwyn ceisio gwella maint y sampl.  Er mwyn rhoi amser i ail-ddylunio'r arolwg, gan gynnwys profi cwestiynau'n fanwl a chaffael a sefydlu contract arolwg newydd, ni chynhelir arolwg yn 2025-26.  Disgwylir i waith maes ailddechrau o 2026-27, a disgwylir i'r canlyniadau cyntaf gael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2027.

Am ragor o wybodaeth neu i gael y newyddion diweddaraf am yr Arolwg Cenedlaethol, cysylltwch â thîm yr Arolwg Cenedlaethol yn Llywodraeth Cymru.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Chwefror 2025