Toglo gwelededd dewislen symudol

Problemau gyda'r ffonau

O ganlyniad i broblemau parhaus yn dilyn toriadau trydan ddydd Gwener, efallai na fydd modd i chi gysylltu â ni dros y ffôn. Os ydych yn ffonio, mae'n bosib y bydd yn ymddangos eich bod mewn ciw, ond ni fydd ein staff yn gallu eich ateb gan nad oes cymorth teleffoni ar gael. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein yn abertawe.gov.uk/gwnewchearlein neu gallwch e-bostio gan ddefnyddio'r manylion yn abertawe.gov.uk/manylionffonacebost

Matrix One, 1 Matrix Park, Parc Menter Abertawe

AR OSOD: Swyddfeydd sy'n darparu cymysgedd o leoedd agored a chellog. Gellir rhannu'r lle i ddarparu ystafelloedd o 7,000 tr sg.

Matrix One, 1 Matrix Park

Rhif Adnabod yr Eiddo: 38
Cyfeiriad: Matrix One, 1 Matrix Park, Parc Menter Abertawe SA6 8RE
Deiliadaeth: Ar Osod
Asiant: Dawsons: ffoniwch Matthew Morgan ar 02920 378844
Maint: 28,253 tr sg/2,625 m sg
Pris rhentu: Cysylltwch â'r asiant

Sylwadau

Mae Matrix One yng nghanol Parc Busnes Abertawe. Mae'r uned yn cynnig lle modern, cynllun agored gwych mewn lleoliad hwylus i gyrraedd canol dinas Abertawe a'r M4.

Mae modd addasu'r lle gan fod modd cael mynediad i'r nenfydau crog a'r lloriau uchel. Mae'r lle wedi'i adnewyddu'n ddiweddar i safon wych. Mae 116 o leoedd parcio gan gynnwys 8 lle parcio i'r anabl a 5 rhesel feiciau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Ebrill 2023