Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Newyddion mawr wrth i'r Red Arrows ddychwelyd i Abertawe

Bydd y Red Arrows, tîm byd-enwog y Llu Awyr Brenhinol, yn dychwelyd i Abertawe i ddiddanu'r dorf yn Sioe Awyr Cymru yn ystod yr haf.

Red Arrows

Dyma'r enw mawr cyntaf a gadarnhawyd ar gyfer y digwyddiad deuddydd nodedig am ddim a gynhelir ym Mae Abertawe ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf a dydd Sul 6 Gorffennaf. Mae'r sioe flynyddol dros forlin 4 milltir y bae, a drefnir gan Gyngor Abertawe, yn denu mwy na 200,000 o breswylwyr ac ymwelwyr o bob cwr o Gymru a'r DU.

Bydd y Red Arrows, sy'n enwog am arddangosiadau awyr gwefreiddiol a hedfan manwl gywir, yn perfformio ar y ddau ddiwrnod eleni, gan roi cyfle i gefnogwyr weld trefniannau nodweddiadol, symudiadau brawychus ac olion mwg coch, gwyn a glas disglair.

Ar y tir, bydd ymwelwyr yn cael mwynhau amrywiaeth o opsiynau adloniant, gan gynnwys stondinau masnach, bwyd a diod blasus, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau difyr i bobl o bob oedran. Bydd yn benwythnos llawn cyffro i deuluoedd, y rhai hynny sy'n dwlu ar awyrennau a thwristiaid fel ei gilydd.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae'n anhygoel bod y Red Arrows yn dychwelyd eto, ac mae'n wych y bydd y tîm yn perfformio ar ddau ddiwrnod Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2025. Rydym yn gwybod y bydd ymwelwyr mor falch o weld yr arddangosiadau hyn ag erioed. Mae'r digwyddiad hwn yn un o uchafbwyntiau calendr haf Abertawe, ac rydym yn disgwyl y bydd yn hynod boblogaidd eto eleni."

Yn ogystal â'r Red Arrows, cyhoeddir mwy o arddangosiadau awyr gwefreiddiol ac atyniadau ar y tir dros yr wythnosau nesaf. Dros y blynyddoedd blaenorol, mae'r rhain wedi cynnwys awyrennau eiconig megis Hediad Coffa Brwydr Prydain, Typhoon y Llu Awyr Brenhinol, ac amrywiaeth o dimau erobateg rhyngwladol.

Ceir rhagor o wybodaeth, y newyddion diweddaraf a chyngor ar deithio drwy fynd i'r wefan swyddogol: sioeawyrcymru.com

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Mawrth 2025