Toglo gwelededd dewislen symudol

Preswylwyr Abertawe'n dweud y byddant yn parhau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus

Mae llawer o breswylwyr Abertawe a wnaeth fanteisio ar gynnig bysus am ddim trwy gydol yr haf wedi dweud y byddant yn parhau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

free bus survey

Darparodd Cyngor Abertawe gludiant bysus am ddim ar benwythnosau i bawb yn y ddinas dros wyliau'r haf er mwyn ceisio helpu'r ddinas i adfer yn dilyn effaith ariannol y pandemig. Roedd hefyd am annog rhagor o bobl i ystyried defnyddio bysus yn hytrach na theithio yn eu ceir yn y dyfodol.

Mae arolwg newydd a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y cyngor wedi dangos y bydd llawer o'r rheini a ddefnyddiodd y gwasanaeth am ddim yn defnyddio bysus eto a gallai hyn arwain at gynnydd yn niferoedd y teithwyr ar fysus yn y dyfodol.

Cymerodd dros 450 o bobl ran yn yr arolwg a phan ofynnwyd iddynt a fyddai'r cynnig bysus am ddim yn eu hannog i ddefnyddio bysus yn fwy aml, dywedodd 75% ohonynt y byddai'n gwneud hynny.

Mae niferoedd teithwyr diweddar a ddarparwyd i'r cyngor gan weithredwyr cludiant dros gyfnod y cynnig wedi dangos bod 220,000 o deithwyr wedi defnyddio'r gwasanaeth am ddim.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Gwnaethom lansio Bysus am Ddim Abertawe i helpu teuluoedd a busnesau a oedd wedi profi anawsterau o ganlyniad i'r pandemig.

"Mae teuluoedd wedi dweud wrthyf gymaint o wahaniaeth y mae wedi'i wneud iddynt. Maen nhw wedi gallu mwynhau dyddiau mas heb orfod poeni am gostau teithio.

"Mae hefyd wedi rhoi hwb i'r economi leol gyda phobl yn teithio i ganol y ddinas, ein hatyniadau a'n canolfannau siopau ar draws Abertawe.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Rydym yn fodlon ar yr ymateb a'r gefnogaeth gan breswylwyr Abertawe a fanteisiodd ar y cynnig bysus am ddim.

"Ynghyd â'n nod o gefnogi teuluoedd a busnesau, roeddem wir am annog preswylwyr i ddewis teithio ar fysus yn y dyfodol a gadael eu ceir gartref.

"Mae canlyniadau'r arolwg yn sicr yn awgrymu bod pobl yn fodlon gwneud y newid hwn o bryd i'w gilydd a defnyddio cludiant cyhoeddus. Mae hwn yn newyddion gwych, nid yn unig i'r cyngor wrth i ni leihau traffig ar ein ffyrdd ond hefyd i gwmnïau cludiant cyhoeddus."

Meddai Adam Keen, Rheolwr Gyfarwyddwr Adventure Travel, "Mae'n ymddangos bod yr ymgyrch hon wedi cyflawni ei bwriad. Mae wedi denu sylw pobl a'u hannog i ddefnyddio'r bws. Yn well byth, mae'r arolwg yn awgrymu y bydd llawer o'r teithwyr newydd yn teithio gyda ni eto, a dyna'r canlyniad gorau posib.

"Fel gweithredwr, rydym yn cefnogi'r fenter hon ac edrychwn ymlaen at ragor ohonynt ar draws Cymru."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2021