Aelodau panel yn awyddus i glywed barn preswylwyr am helbul
Ddydd Llun bydd preswylwyr lleol Mayhill a Waun Wen yn cael eu cyfle cyntaf i siarad ag aelodau panel adolygu ar y cyd annibynnol am yr helbul a fu yn y gymuned yn gynharach eleni.
Fe'i cadeirir gan CF, yr Athro Elwen Evans, ynghyd â'r Is-gadeiryddion Martin Jones, arbenigwr yr heddlu, a Jack Straw, arbenigwr llywodraeth leol.
Bydd y tri ohonynt yng Nghanolfan Gymunedol Mayhill rhwng 10am a 2pm a rhwng 3pm a 7pm ddydd Llun i wrando ar farn preswylwyr am y digwyddiadau cyn 20 Mai ac wedi hynny.
Bydd rhaid trefnu apwyntiad a gall preswylwyr wneud hyn drwy e-bostio Community.Action@abertawe.gov.uk neu drwy ffonio naill ai 01792 635412 neu 07796 275137.
Gall unrhyw un sydd am siarad ag aelod o'r panel ond nad yw'n gallu dod ar y diwrnod gofrestru er mwyn gallu gwneud trefniadau yn y dyfodol.
Hefyd yn ystod yr un amserau bydd wynebau sy'n gyfarwydd i breswylwyr lleol sy'n byw ac yn gweithio ym Mayhill a Waun Wen yn darparu gwasanaethau i'r gymuned, a gall preswylwyr siarad â nhw neu ofyn am wasanaethau lleol.
Mae digwyddiadau fel yr helbul ym Mayhill yn brin iawn yn Abertawe a daeth preswylwyr, arweinwyr cymunedol a'r awdurdodau ynghyd i roi cymorth i'r gymuned glos a darparu amrywiaeth o gefnogaeth yn ddi-oed i'r rheini yr effeithiwyd arnynt.
Nod yr adolygiad dysgu ar y cyd yw cael rhagor o wybodaeth am gefndir yr helbul a dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.
Cynhaliwyd panel ieuenctid ym Mayhill yn ddiweddar ar gyfer pobl ifanc, a bydd eu barn hefyd yn cael ei rhannu.
Caiff yr adolygiad ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi croesawu'r arweinyddiaeth leol y mae Cyngor Abertawe a Heddlu De Cymru wedi'i dangos.