Cynllun y cyngor yn helpu i gael pobl Abertawe i ddychwelyd i gyflogaeth a gwirfoddoli
Mae gweithwyr Abertawe a gollodd eu swyddi yn ystod y pandemig wedi cael gobaith newydd diolch i gynllun dychwelyd i waith Cyngor Abertawe.
Mae Prosiect y Di-waith Tymor Byr Gweithffyrdd+ Abertawe wedi helpu dros 200 o bobl yn ystod y 15 mis diwethaf.
Mae dros 100 ohonynt bellach wedi dychwelyd i gyflogaeth ac mae eraill yn cwblhau hyfforddiant neu gyfnod gwirfoddoli.
Meddai Aelod y Cabinet, Alyson Pugh, "Rydym am wella bywydau pobl - a dyma'n union y mae'r prosiect hwn yn ei wneud."
Mae prosiect y di-waith tymor byr Gweithffyrdd+ yn cynnig cyfleoedd cefnogaeth hyfforddiant a chyflogaeth i ddinasyddion di-waith dros 25 oed.
Cefnogwyd y prosiect gan £1.2m o gyllid drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a thrwy Lywodraeth Cymru.
Mae'r gefnogaeth yn cynnwys helpu pobl i chwilio am swyddi, a datblygu eu CV, trefnu iddynt gael hyfforddiant a ariennir ac ennill cymwysterau, gwella eu hyder, datblygu sgiliau cyfweliad, trefnu profiad gwaith â thâl ar eu cyfer a'u cyflwyno i ddarpar gyflogwyr.
Defnyddiwyd y prosiect gan Hugh Blackwood, 56 oed o Southgate Abertawe, i ddod o hyd i waith newydd gyda'r grŵp adeiladu ac adfywio, Morgan Sindall.
Roedd Danielle Riley, 47 oed, o Gilâ, wedi defnyddio'r prosiect i ddod o hyd i waith newydd gyda chyfleusterau arwerthu de Cymru.
Defnyddiwyd y prosiect gan Kathryn Hynes, 63 oed, o Brynmill, i sicrhau rolau gwerthfawr fel gwirfoddolwr gyda dau sefydliad elusennol ac mae bellach wedi cael cyflogaeth amser llawn gyda chymorth y cynllun.
Mae gan brosiect y di-waith tymor byr Gweithffyrdd+ dîm dynodedig o Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth sy'n rhan o dîm Gweithffyrdd+ y cyngor.
Mae'r gefnogaeth, gan ddefnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur leol a'i harbenigedd, wedi'i phersonoli ac yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn fel y gall ennill cyflogaeth gynaliadwy.
Mae gan y swyddogion berthynas waith gref â busnesau lleol, ac mae rhwydwaith o dros 250 o gyflogwyr sy'n darparu mynediad at swyddi nad ydynt ar gael ar wefannau chwilio am swyddi.
RhagorGweithffyrdd+@abertawe.gov.uk, 01792 637112.
Llun:Hugh Blackwood o Abertawe, o'r grŵp adeiladu ac adfywio, Morgan Sindall.