Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe'n lansio cais i fod yn Ddinas Hawliau Dynol

Mae Abertawe wedi lansio'i bwriad i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.

Mark Drakeford at Human Rights City launch

Mark Drakeford at Human Rights City launch

Gwnaeth Cyngor Abertawe, yr heddlu, partneriaid eraill ac arweinwyr busnesau ddod at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd y Ddinas ddydd Gwener lle gwnaethant ymrwymo i weithio gyda'i gilydd a chyda phobl ar draws y ddinas i gyflawni'r uchelgais hon.

Mae'r cyngor eisoes wedi dechrau arwain y ffordd trwy ofyn i bobl am eu barn a'u syniadau er mwyn helpu i greu cynllun gweithredu a bydd yn parhau i gynnwys preswylwyr trwy'r broses.

Agwedd allweddol ar fod yn Ddinas Hawliau Dynol yw siarad â phobl a gwrando ar eu gwir bryderon. Drwy ddeall yr hyn sydd fwyaf pwysig iddynt, gellir blaenoriaethu gwasanaethau o addysg i ofal cymdeithasol, mynediad at fannau gwyrdd neu fynd i'r afael â throseddau casineb a'u gwella yn lleol.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Rydym am i Abertawe fod yn ddinas lle mae pawb yn gyfartal, lle mae'r holl breswylwyr yn deall eu hawliau dynol ac yn parchu hawliau pobl eraill.

"Rydym am sicrhau bod gan bawb, yn enwedig y rheini sydd ar y cyrion ac sy'n gymdeithasol ddiamddiffyn, gyfle i fynegi eu barn a chymryd rhan weithredol yn y penderfyniadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau. 

"Mae dros 100 o Ddinasoedd Hawliau Dynol ar draws y byd ond un yn unig sydd yn y DU.

"Ein huchelgais yw bod yr ail yn y DU a'r cyntaf yng Nghymru ond rydym yn ymwybodol bod angen i ni wneud llawer o bethau cyn cyflawni hynny.

"Bydd angen i hon fod yn ymdrech ddinas gyfan a bydd angen syniadau a chefnogaeth arnom o bob rhan o'n cymuned i gyflawni hyn ond os bydd pawb yn gweithio gyda'n gilydd, gallwn ei gyflawni."

Gofynnwyd i'r rheini a oedd yn bresennol ddydd Gwener lofnodi addewid o'u bwriad a chyfrannu at y cynllun gweithredu.

Gwnaethant hefyd glywed barn preswylwyr hen ac ifanc am bwysigrwydd Hawliau  Dynol a'r rôl maent yn eu chwarae yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Close Dewis iaith