Toglo gwelededd dewislen symudol

Y buddsoddiad mwyaf erioed mewn cadw plant yn ddiogel a chefnogi teuluoedd

Mae Cyngor Abertawe'n buddsoddi'r symiau mwyaf erioed mewn cadw plant a phobl ifanc ar draws y ddinas a'r sir yn ddiogel.

Swansea Council Logo (landscape)

Bu cynnydd o 10% yn y cyllid ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd dros y tair blynedd diwethaf, ac mae'r cyngor hefyd wedi llwyddo i sicrhau cynnydd sylweddol mewn grantiau i hyrwyddo'i waith wrth gefnogi plant, pobl ifanc a helpu teuluoedd sy'n agored i niwed.

Mae'r cyngor yn trawsnewid y ffordd mae'n gweithio i wneud y defnydd gorau o'i adnoddau i weithio gyda phlant, pobl ifanc, a theuluoedd fel eu bod yn cael y gefnogaeth iawn, ar yr adeg iawn, gan y bobl sydd yn y sefyllfa orau i'w cefnogi.

Y llynedd, derbyniodd y cyngor 8,407 o ymholiadau a oedd yn ymwneud â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Aethpwyd i'r afael â llawer o'r rhain trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a alluogodd teuluoedd i ddod o hud i'w hatebion eu hunain i'w hanawsterau a datblygu cynlluniau a oedd yn cynnwys eu rhwydweithiau cefnogi naturiol.

Roedd gweithwyr cymdeithasol wedi gweithio gyda 2,263 o blant a'u teuluoedd gydag achosion mwy cymhleth wrth i'r Canolfannau Cymorth Cynnar gefnogi 2,216 o blant a'u teuluoedd.

Cafwyd cynnydd yn niferoedd y tîm Evolve sef Gwasanaeth Pobl Ifanc y cyngor. Maent wedi cwrdd â 600 o bobl ifanc a oedd yn hysbys i'r gwasanaeth, ac wedi cysylltu â 7,318 o bobl ifanc, gan sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi yn eu cymunedau.

Cefnogwyd cant ac wyth deg pedwar o blant a phobl ifanc fel nad oedd angen llety arnynt yng ngofal yr awdurdod lleol ac er yr ychwanegwyd 238 o blant at y Gofrestr Amddiffyn Plant, tynnwyd 323 oddi arni'n ddiogel diolch i waith y gwasanaeth.

Meddai Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, Elliot King, "Mae Cyngor Abertawe'n parhau i flaenoriaethu gwasanaethau cymdeithasol, ar y cyd ag addysg, wrth i ni fuddsoddi ym mhlant a phobl ifanc ac Abertawe.

"Y flwyddyn ariannol hon, mae'r gyllideb graidd ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd tua £45m ac mae'r Cabinet yn bwriadu cynyddu hyn ymhellach pan bennir y gyllideb nesaf yn fuan.

"Ar ben hyn, rydym wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau grantiau ychwanegol sef tua £10m ychwanegol eleni.

"Caiff yr holl arian hwn ei fuddsoddi'n uniongyrchol mewn gwasanaethau sy'n cadw plant yn ddiogel yn ogystal â chefnogi teuluoedd ifanc y mae angen cefnogaeth arnynt.

"Mae gennym weithwyr proffesiynol ymroddedig ac ymrwymedig sy'n gweithio ar draws y gwasanaeth ac rydym yn eu cefnogi wrth iddynt drawsnewid y ffordd maent yn gweithio."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Chwefror 2022