Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Miliynau'n cael eu buddsoddi yn nhirnodau'r ddinas dros y flwyddyn sydd i ddod

Caiff degau ar filiynau o bunnoedd eu buddsoddi mewn ysgolion, canol y ddinas ac yn adfywiad Gerddi Sgwâr y Castell dros y flwyddyn sydd i ddod.

New Tirdeunaw School

Er gwaethaf heriau'r pandemig, cwblhawyd dwy ysgol gynradd newydd yn Nhirdeunaw a Than-y-lan a disgwylir i waith uwchraddio yn Ysgol Gyfun Gŵyr gael ei gwblhau'n fuan.

Yn ogystal â hynny, mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ym mhrosiect pentref digidol 71/72 Ffordd y Brenin yn golygu y bydd gwaith adeiladu'n dechrau'n fuan.

Ar ben hyn, neilltuwyd £20m ar gyfer prosiectau â'r nod o roi hwb ychwanegol i Abertawe wrth iddi ddod allan o'r pandemig.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Er gwaethaf heriau'r pandemig, bydd Abertawe'n dod allan ohono wedi'i thrawsnewid ac yn gryfach nag erioed o'r blaen.

"Mae ein cynlluniau Cyllideb Cyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys cyllid pellach ar gyfer adnewyddu Theatr y Palace, Gerddi Sgwâr y Castell a thrawsnewid hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen yn hwb cymunedol, gan gynnwys llyfrgell newydd."

Tynnwyd sylw at y cynlluniau mewn adroddiad Cyllideb Cyfalaf y bydd y Cabinet yn ei weld ar 17 Chwefror sy'n nodi tua £83m o wariant cyfalaf ar brosiectau mawr dros y flwyddyn sydd i ddod ar ben cost gychwynnol o bron £160m yn 2021/22.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'n naturiol bod llawer o'r diddordeb ym mhroses adfywio Abertawe wedi canolbwyntio ar drawsnewid canol y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf.

"Ond mae addysg yn fuddsoddiad tymor hir yn nyfodol ein plant a bywiogrwydd economaidd ein cymunedau am genedlaethau sydd i ddod. Dyna pam, ar y cyd â'r cymorth a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, rydym yn parhau i fuddsoddi'n helaeth yn ein hysgolion ac addysg.

"Ein rhaglen fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £150m yw'r un fwyaf erioed y mae'r cyngor wedi ymgymryd â hi ac mae'n dystiolaeth bod plant yn ffynnu mewn cyfleusterau modern, gyda chefnogaeth staff addysgu a staff ysgol rhagorol."

Os cymeradwyir rhaglen y gyllideb gyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf gan y Cabinet, fe'i cyflwynir i'r Cyngor Llawn ar 3 Mawrth am benderfyniad terfynol.

 

 

 

Close Dewis iaith