Toglo gwelededd dewislen symudol

Gŵyl Croeso'n llwyddiant ysgubol

Roedd y digwyddiad Gŵyl Croeso cyntaf a gynhaliwyd yn dilyn y pandemig yn llwyddiant ysgubol.

Croeso

Daeth y dathliad deuddydd o bob peth Cymreig, coginio a hwyl â blas go iawn ar Gymru i strydoedd a lleoliadau yng nghanol y ddinas ar 25 a 26 Chwefror.

Ymysg yr uchafbwyntiau a oedd yn codi hwyliau pawb yng nghanol y ddinas dros y ddau ddiwrnod roedd sioeau gan ben-cogyddion enwog a chogyddion cartref gan gynnwys Hywel Griffith o Great British Menu, Nathan Davies a Bryn Williams, Matt Pritchard o Dirty Vegan y teledu a Samantha Evans a Shauna Guinn o Sam and Shauna's Big Cook Out.

Roedd hefyd gerddoriaeth fyw yn Sgwâr y Castell, a dychwelodd Nosweithiau Cerdd Croeso yr ŵyl ymylol i leoliadau fel The Jam Jar a'r Elysium, gyda Chôr Meibion Dynfant yn diddanu torfeydd ym Marchnad Abertawe.

Hefyd fel rhan o'r digwyddiad Gŵyl Croeso, agorwyd Gardd y Farchnad - lleoliad cyfarch, cwrdd a bwyta newydd sbon yng nghanol ein marchnad arobryn - yn swyddogol.

Roedd masnachwyr y farchnad wrth eu boddau â'r digwyddiad. Meddai Debra Bissett o The Baby Room ym Marchnad Abertawe,"Roedd y digwyddiad yn wych! Roedd naws yr ŵyl yn amlwg a chefais adborth gwych gan gwsmeriaid. Roedd ymdeimlad go iawn o ysbryd cymuned yn y farchnad ac roedd yn amlwg bod pawb yn mwynhau'n fawr."

Meddal Jan Evans o Jan Evans Bakery, "Roedd digwyddiad lansio Gardd y Farchnad newydd Marchnad Abertawe yn llwyddiant mawr.Cafodd ei redeg yn arbennig o dda a daeth llawer o gwsmeriaid i'r farchnad."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Mawrth 2022