Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad yn amlygu gweithgareddau i bobl dros 50 oed

Disgwylir i fwy na 40 o sefydliadau fynd i ddigwyddiad yn hwyrach y mis hwn sydd â'r nod o hyrwyddo gweithgareddau i bobl dros 50 oed yn Abertawe a cheisio syniadau am rai newydd.

LC2

Cynhelir y digwyddiad Gwybodaeth a Rhwydweithio Heneiddio'n Dda rhwng 10am a 2pm ar 22 Mawrth yn yr LC.

Mae am ddim i holl breswylwyr Abertawe sy'n gallu galw heibio a chwrdd â chynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau.

Meddai Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau i Oedolion, "Mae'r digwyddiad hwn rydym yn ei gynnal gyda'n partneriaid yn gyfle gwych i sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl 50 oed ac yn hŷn i ddod ynghyd i rwydweithio, adeiladu cysylltiadau a chwilio am gyfleoedd ar gyfer gweithio fel partneriaeth. Mae'n gyfle i rannu gwybodaeth am brosiectau cyfredol a thrafod syniadau newydd.

"Mae e' hefyd yn agored i'r cyhoedd a gall preswylwyr siarad â sefydliadau, cael gwybod am y gwasanaethau maent yn eu cynnig a sut i gael gafael arnynt a chaniatáu iddynt gymryd rhan o fewn y gymuned."

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddog Partneriaethau a Chyfranogaeth Pobl Hŷn, Rhys Thomas, drwy ei e-bostio yn Rhys.Thomas@abertawe.gov.uk neu ffoniwch ef ar 07977346177.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Mawrth 2022