Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor Abertawe'n penodi Prif Weithredwr Dros Dro

Mae Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd Cyngor Abertawe wedi'i benodi'n Brif Weithredwr Dros Dro ar gyfer yr awdurdod.

Martin Nicholls

Martin Nicholls

Penodwyd Mr Nicholls yn ystod cyfarfod y cyngor ar 18 Mawrth. Bydd yn ymgymryd â'i ddyletswyddau ym mis Mai pan fydd y Prif Weithredwr Phil Roberts yn ymddeol ar ôl chwe blynedd yn y swydd.

Meddai Mr Roberts, "Mae Martin yn ffigwr uchel ei barch yn y cyngor ac ymysg ein sefydliadau partner eraill. Bydd yn dod â phrofiad helaeth i'r rôl yn ystod cyfnod pwysig iawn i'r cyngor."

Yn dilyn etholiadau'r cyngor ar 5 Mai, bydd y cyngor yn hysbysebu am Brif Weithredwr Parhaol, yn unol â deddfwriaeth yr awdurdod lleol.

Close Dewis iaith