Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig bysus am ddim poblogaidd Abertawe'n dychwelyd ar gyfer y Pasg

Gall teithwyr yn Abertawe deithio ar fysus yng nghanol y ddinas am ddim unwaith eto yn ystod mis Ebrill a'r gwyliau'r Pasg fel rhan o fenter Bysus am Ddim Abertawe.

easter free bus

Mae Cyngor Abertawe'n cynnig cyfle i bawb adael y car gartref a theithio ar fws i unrhyw le yn y ddinas.

Bydd y cynnig diweddaraf ar gael dros y rhan fwyaf o wyliau hanner tymor y Pasg, a gall pobl deithio am ddim am 10 niwrnod rhwng 15 a 24 Ebrill.

Yn debyg i gynigion blaenorol mis Chwefror a'r Nadolig, bydd angen i deithwyr sicrhau bod eu taith yn dechrau a gorffen yn Abertawe er mwyn teithio am ddim, a daw'r gwasanaeth am ddim i ben am 7pm ar bob diwrnod y mae'r cynnig ar gael.

Meddai Stuart Davies, Pennaeth Cludiant a Phriffyrdd Cyngor Abertawe, "Rydym yn parhau gyda'n cynlluniau i gynnig teithiau am ddim yn ystod cyfnodau gwyliau yn y ddinas.

"Hyd yn hyn, mae'r cynnig wedi bod yn hynod boblogaidd gyda phreswylwyr a'r rheini sy'n teithio o fewn ffin y ddinas.

"Gobeithio y gall teuluoedd fanteisio ar y cynnig diweddaraf dros wyliau'r Pasg.

"Y buddion ychwanegol i'r ddinas yw y bydd rhai teuluoedd efallai'n dewis gadael y car gartref, a defnyddio cludiant cyhoeddus i fynd o le i le.

"Mae costau tanwydd uchel i'r rheini a chanddynt gar yn golygu y gall teuluoedd arbed ychydig o'u harian ar gyfer pethau eraill, a neidio ar fws am ddim."

Mae rhagor o wybodaeth am y cynnig bysus am ddim ar gael ar wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/bysusamddim