Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gyllid yn dod i Abertawe ar gyfer cerdded a beicio

Disgwylir i lwybrau cerdded a beicio yn Abertawe gael eu hehangu ar ôl i Gyngor Abertawe sicrhau miliynau mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

cycling stock pic

Mae'r cyngor wedi derbyn cadarnhad gan LlC am fwy nag £8 miliwn o gyllid trafnidiaeth a gaiff ei fuddsoddi yn rhwydwaith cerdded a beicio cynyddol y ddinas.

Caiff rhan o'r cyllid ei defnyddio hefyd i wella prif lwybrau yn y ddinas ar gyfer cludiant cyhoeddus, mewn ymgais i wella gwasanaethau bysus a chyflymu teithiau i deithwyr.

Dyfarnwyd cyfanswm o £8,325 miliwn i'r cyngor ar ôl iddo gyflwyno cais yn gynharach yn 2022.

Bydd adroddiad i'r Cabinet yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer rhestr o gynlluniau trafnidiaeth a fydd yn helpu i roi hwb i gludiant cynaliadwy ac annog rhagor o bobl i gerdded a beicio.

Caiff ychydig dros £7 miliwn o'r cyllid ei wario ar ddatblygu llwybrau cerdded a beicio newydd.

Mae llwybr newydd ar draws Comin Clun a fydd yn cysylltu pentref Llandeilo Ferwallt â llwybr cerdded a beicio newydd ei gwblhau ar Mayals Road wedi'i gynnwys yn y cynlluniau.

Caiff llwybrau newydd eu datblygu hefyd yng ngogledd y ddinas, gan gynnwys llwybr newydd rhwng Pengelli a Phontarddulais a chyswllt newydd rhwng Penllergaer a Gorseinon.

Defnyddir cyllid hefyd i lenwi bylchau yn y rhwydwaith cerdded a beicio ar hyd coridor afon Tawe yn ardal Treforys a'r cyffiniau.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Unwaith eto, mae Abertawe wedi llwyddo i sicrhau cyllid pwysig rydym am ei fuddsoddi yn ein rhwydwaith trafnidiaeth yn y ddinas.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn am nifer o flynyddoedd, yn creu llwybrau cerdded a beicio sy'n rhoi ffyrdd amgen i breswylwyr ac ymwelwyr deithio o gwmpas y lle, heb orfod defnyddio car.

"Ein nod yw gwneud cerdded a beicio'n opsiwn difrifol i bobl, hyd yn oed yn fwy felly gyda phrisiau tanwydd yn parhau i gynyddu ar draws y wlad.

"Mae Abertawe yn ddinas fawr gyda llawr o gymunedau ac rydym yn parhau i gynllunio a datblygu llwybrau sy'n cysylltu'r cymunedau hynny. Mae preswylwyr eisoes wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau ar draws y ddinas am lwybrau newydd fel y gallwn gynllunio ymlaen llaw, a byddwn yn parhau i weithio gyda phreswylwyr, grwpiau beicio a chyrff cynrychioliadol eraill i sicrhau bod llwybrau newydd yn helpu i gyflawni'n nodau."

Caiff peth o'r cyllid (£12 miliwn) ei ddefnyddio hefyd i wella prif lwybrau yn y ddinas - gan dargedu llwybrau a ddefnyddir gan wasanaethau cludiant cyhoeddus yn benodol.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Mae angen i ni sicrhau bod llwybrau prysur a ddefnyddir gan wasanaethau cludiant cyhoeddus yn cael eu gwella ac yn gallu helpu i wneud gwasanaethau bysus yn fwy dibynadwy ac yn fwy atyniadol i deithwyr posib.

"Bydd y cyllid diweddaraf yn ein cynorthwyo i wella blaenoriaeth i fysus yn ogystal ag uwchraddio safleoedd bysus."