Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor diogelwch bwyd i fusnesau ar ôl i ddirwyon gael eu rhoi

Mae busnesau bwyd yn Abertawe ac ar draws y wlad yn cael eu hatgoffa am eu cyfrifoldebau o ran diogelwch bwyd fel rhan o ymgyrch genedlaethol.

food allergens

Mae Cyngor Abertawe yn cefnogi ymgyrch yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n cael ei chynnal drwy gydol mis Mehefin, gan ddechrau gyda 'Diwrnod Bwyd Diogelwch y Byd' a gynhaliwyd yn ddiweddar (7 Mehefin). 

Mae adroddiadau gan awdurdodau lleol yn dangos bod arolygwyr hylendid bwyd wedi sylwi bod llai o fusnesau bwyd yn cydymffurfio ers y pandemig. Mae meysydd pryder arbennig yn cynnwys rheoli plâu, rheoli diogelwch bwyd a phroblemau amnewidiadau bwyd sy'n gysylltiedig ag alergeddau.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ymateb i hyn drwy lansio'u hymgyrch, gan annog busnesau bwyd i wneud popeth y gallant i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr.

Yn Abertawe, yn ystod anterth y pandemig ym mis Tachwedd 2020, cynhaliodd Swyddogion Safonau Masnach gyfres o bryniadau prawf o sefydliadau cludfwyd. Yn ystod yr ymgyrch prynu ar brawf, daliwyd nifer o sefydliadau yn gwerthu bwyd a oedd yn cynnwys cynnyrch llaeth, lle'r oedd y prynwr prawf wedi datgelu ei fod yn dioddef o alergedd i laeth.

O ganlyniad i'r ymarfer a arweiniwyd gan y cyngor, dirwywyd pedair siop cludfwyd yn Abertawe, ac maent yn wynebu mwy na £19,000 mewn costau.

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad yng Nghyngor Abertawe, "Yn ystod anterth y pandemig, bu'n rhaid i lawer o fwytai gau ac felly roedd defnyddwyr yn defnyddio busnesau cludfwyd yn fwy. Roeddem am sicrhau bod y busnesau hyn yn gweithredu'n ddiogel a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch bwyd cyfredol.

"Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gwneud hyn ac yn parhau i weithredu'n gyfrifol. Fodd bynnag, roedd nifer o fusnesau lle gwnaed pryniadau prawf yn fyr o'r rheoliadau ac yn anwybyddu alergeddau a ddatgelwyd iddynt gan y defnyddiwr ac yn fwriadol yn gwerthu bwyd iddynt a allai gael goblygiadau difrifol wrth eu bwyta.

"Deliwyd â'r busnesau hyn drwy ein gweithdrefnau gorfodi a gobeithiwn yn awr eu bod yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae angen ei wneud yn y dyfodol."

Yn ogystal â phrynu eitemau bwyd ar brawf, mae Tîm Diogelwch Bwyd y cyngor yn gweithio'n rheolaidd gyda busnesau, gan archwilio eiddo i sicrhau bod y ffordd y caiff bwyd ei baratoi a'i storio'n cydymffurfio â safonau hylendid bwyd cenedlaethol.

Meddai Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, "Mae llawer o fusnesau bwyd eisoes yn bodloni safonau hylendid bwyd da a gwyddwn fod hyn yn bwysig i ddefnyddwyr sydd am deimlo'n hyderus na fydd y bwyd maent yn ei ddewis yn eu gwneud yn sâl.

"Mae problemau diogelwch bwyd fel gwenwyn bwyd a digwyddiadau o beidio â datgelu alergeddau yn gallu achosi dioddefaint diangen i unigolion, yn ogystal ag effeithio ar eu teuluoedd. Rydym yn cydweithio â Chyngor Abertawe sy'n cefnogi busnesau ac yn eu helpu i ddeall y gofynion rheoliadol."

Mae rhagor o wybodaeth i fusnesau bach am weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a rheoliadau hylendid bwyd ar gael yn food.gov.uk

 

 

Close Dewis iaith