Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofalwyr di-dâl yn cael eu hannog i wneud cais am grant

Mae gofalwyr di-dâl y mae ganddynt hawl i grant untro o £500 yn cael eu hannog i gyflwyno'u cais yn fuan.

Swansea Bay

Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi talu dros £1m i dros 2,000 o ofalwyr di-dâl ac mae 1,000 yn rhagor o ffurflenni cais yn cael eu prosesu.

Ond amcangyfrifir bod tua 1,300 o ofalwyr di-dâl pellach nad ydynt wedi achub ar y cyfle eto i wneud cais am grant Llywodraeth Cymru sy'n cael ei weinyddu gan y cyngor.

Mae gofalwyr di-dâl a dderbyniodd Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022 yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, ni fydd pobl yn gymwys os ydynt yn derbyn Premiwm Gofalwr drwy fudd-dal prawf modd fel Credyd Cynhwysol.

Rhaid i unrhyw un sy'n meddwl y gall fod yn gymwys i dderbyn y taliad gyflwyno cais am y grant ar-lein ar wefan Cyngor Abertawe: www.abertawe.gov.uk/grantiofalwyrdidal

Agorodd y dudalen ar gyfer cyflwyno ceisiadau, sy'n cynnwys gwybodaeth am bwy sy'n gymwys ai peidio, ar 16 Mai. Rhaid cwblhau cofrestriadau ar gyfer y grant erbyn 5pm ar 15 Gorffennaf.

Dywedodd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, ei bod hi'n newyddion da fod miloedd o ofalwyr di-dâl eisoes wedi gwneud cais am y grant. Ond mae'n bwysig nad oes neb sy'n gymwys yn colli'r cyfle i fanteisio arno.

Meddai, "Rwyf am ddiolch i ofalwyr di-dâl am eu rôl werthfawr nad yw'n cael ei gwerthfawrogi'n aml. Mae eu gwaith yn awr ac yn ystod y pandemig yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r rheini maen nhw'n eu cefnogi ac i'r gwasanaethau iechyd a gofal hefyd.

 "Rydym eisoes wedi anfon llythyrau at ofalwyr y credwn y gallent fod yn gymwys i gyflwyno cais er mwyn eu hannog i ystyried cofrestru ar gyfer y grant. Cymeradwywyd ceisiadau cannoedd yn rhagor hefyd, gyda mwy i ddod.

"Rydym yn ei wneud mor syml â phosib i bobl gofrestru a gallwn ddarparu cymorth i unrhyw un na all lenwi'r ffurflen ei hun ac nad oes neb ganddo i'w helpu i wneud hynny. Rydym hefyd wedi sicrhau bod grwpiau a sefydliadau cymorth lleol yn ymwybodol y gallant lenwi'r ffurflen ar ran y bobl maent yn eu cefnogi."

Rhaid i unrhyw un sy'n meddwl y gall fod yn gymwys ar gyfer grant gofrestru amdano. Yna caiff ei asesu a gwneir taliad os yw'n gymwys ar ei gyfer.

 

Close Dewis iaith