Cynnig bysus am ddim yn dychwelyd ar gyfer gwyliau'r haf
Mae menter bysus am ddim Cyngor Abertawe yn dychwelyd ar gyfer gwyliau'r haf, gan ddechrau ar 29 Gorffennaf.

Bydd yr holl deithiau bws sy'n dechrau ac yn gorffen yn Abertawe am ddim i bawb bob penwythnos o ddiwedd mis Gorffennaf a thrwy gydol mis Awst ac yn cynnig cyfanswm o 20 diwrnod o deithio am ddim (Gwe-Llun).
Lansiodd y cyngor y fenter teithio am ddim yn ystod gwyliau haf yr ysgolion y llynedd gyda degau o filoedd o bobl yn achub ar y cyfle i deithio am ddim i siopa, gweld ffrindiau am goffi ac ymweld â thirnodau lleol a llawer o'r traethau godidog ar hyd yr arfordir.
Roedd y cynllun cludiant cyhoeddus i arbed arian hefyd ar gynnig yn ystod gwyliau ysgol eraill gan gynnwys y Nadolig, hanner tymor mis Chwefror a'r Pasg.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, fod yn cynnig yn ôl oherwydd galw gan y cyhoedd. Meddai, "Mae'r fenter bysus am ddim wedi bod yn llwyddiant ysgubol dros y 12 mis diwethaf a nawr bod yr haf yma, mae cyfle arall i bawb yn Abertawe fanteisio arni.
"Gall gwyliau haf ysgolion fod yn amser drud i deuluoedd sy'n awyddus i ddifyrru eu plant. Mae ein menter bysus am ddim yn rhoi'r cyfle i bawb deithio o gwmpas ein dinas fendigedig ac yn sicrhau eu bod yn gallu arbed eu harian haeddiannol ar gyfer yr amrywiaeth eang o atyniadau sydd ar gael."
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Yn ogystal â'r ffaith bod hwn yn gynllun arbed arian i lawer, mae'r fenter hefyd yn ymgais gan y cyngor i annog mwy o bobl yn y ddinas i wneud gwell defnydd o gludiant cyhoeddus a gadael y car gartref.
"Mae cost cynyddol tanwydd yn rhywbeth sy'n ei gwneud yn fwyfwy anodd i berchnogion ceir ddal i fyny ag e' ac felly rwy'n hyderus y byddwn yn gweld hyd yn oed mwy o bobl yr haf hwn yn dewis y bws yn lle.
Mae'r fenter bysus am ddim yn berthnasol i bob taith fws sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe, tan 7pm ar ddiwrnodau pan fo'r cynnig ar waith. Bydd angen i deithwyr gydymffurfio ag unrhyw reolau pandemig Llywodraeth Cymru sydd mewn grym ar y pryd.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynnig i deithio ar fysus am ddim, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/bysus