Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybr newydd ar hyd arfordir Gŵyr yn cadw cerddwyr ar y trywydd cywir

Mae cerddwyr wedi bod yn mwynhau defnyddio rhan newydd sbon o lwybr yr arfordir a gwblhawyd ar hyd arfordir Gŵyr.

limeslade cost path

Mae 270 metr o lwybr hygyrch wedi cael ei osod ar hyd yr arfordir rhwng mannau prydferth Gŵyr, sef Limeslade a Rotherslade.

Cwblhawyd y gwaith hanfodol yn gynharach eleni ar ôl i erydu arfordirol gael ei ddarganfod ger y llwybr gwreiddiol yn 2019.

Ar ôl arolygu'r llwybr, gwnaeth Tîm Cefn Gwlad Cyngor Abertawe benodi contractwyr i greu llwybr newydd ymhellach i'r tir ac i ffwrdd o'r ardal yr effeithiwyd arni.

Dyfarnwyd cyllid i'r cyngor gan Lywodraeth Cymru i adeiladu'r rhan newydd o'r llwybr.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Unwaith i ni ddarganfod y problemau a oedd yn gysylltiedig ag erydu arfordirol ar y llwybr presennol, roedd yn bwysig ein bod ni'n edrych ar lwybr amgen ar gyfer y miloedd o gerddwyr sy'n mwynhau defnyddio'r llwybr hwn drwy gydol y flwyddyn.

"Rydym wedi creu rhan newydd o'r llwybr ychydig fetrau i ffwrdd o'r llwybr gwreiddiol, mewn ardal sy'n ddiogel ac i ffwrdd o'r clogwyn lle mae'r erydiad wedi digwydd.

"Yn ffodus, llwyddom i gwblhau'r rhan fwyaf o'r gwaith ar y rhan newydd o'r llwybr heb darfu ar ymwelwyr a oedd yn defnyddio llwybr yr arfordir.

 "Mae'r llwybr newydd yn sicrhau ein bod ni'n gallu cynnal llwybr cerdded sydd wedi'i gysylltu'n llwyr ar draws holl arfordir Gŵyr."

Mae'r cyngor hefyd wedi cadarnhau bod y rhan newydd yn cynnwys elfennau gwell na'r llwybr gwreiddiol, fel gwell hygyrchedd i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn a phramiau a bydd meinciau newydd fel y gall y cyhoedd fwynhau'r golygfeydd ardderchog.

Cwblhawyd gwaith tebyg yn y gorffennol ar hyd darn o lwybr 260 metr o hyd rhwng Limeslade a Langland lle'r oedd erydu arfordirol wedi bygwth yr hen lwybr hefyd.

A gwnaed gwaith adnewyddu ar 1,500 metr ychwanegol o lwybr yr arfordir rhwng Bae Caswell a Langland, gan ddarparu mynediad i bawb.

Agorwyd rhan Abertawe o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn swyddogol yn 2012 lle cysylltwyd 61km o lwybr yr arfordir er mwyn galluogi cerddwyr i gerdded o lannau Abertawe yn SA1 i Gasllwchwr, gan deithio drwy Fae Caswell, Porth Einon, Rhosili a Llanmadog.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Rwy'n credu bod ein rhan ni o lwybr yr arfordir ar hyd Abertawe a Gŵyr yn cynnwys rhai o'r golygfeydd gorau sydd ar gael ar hyd arfordir Cymru gyfan. Mae wir yn syfrdanol o hardd a byddwn yn annog unrhyw un sydd heb gerdded ar hyd y llwybr eto i wneud hynny."

Gall ymwelwyr lawrlwytho map am ddim o'r llwybr yn Abertawe oddi ar wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/cerddedllwybrarfordircymru

 

Close Dewis iaith