Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgolion yn Abertawe yn derbyn offer beicio newydd

Mae offer beicio wedi cael ei roi am ddim i gannoedd o ysgolion cynradd yn Abertawe fel rhan o ymgyrch i gael mwy o bobl i feicio yn y ddinas.

active travel schools

Mae chwe ysgol yn y ddinas gan gynnwys Ysgol Gynradd Treforys, Ysgol Gynradd Llangyfelach, Ysgol Gynradd Gatholig Illtud Sant, Ysgol Gymraeg y Cwm, Ysgol Gynradd Cwm Glas ac Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff wedi derbyn amrywiaeth o offer beicio gan gynnwys beiciau cydbwysedd, sgwteri a chyfleusterau storio fel y gall plant ifanc ddysgu beicio a chael hwyl pan fyddant yn yr ysgol.

Rhoddwyd yr holl offer i'r ysgol gan gontractwyr lleol sydd wedi adeiladu llwybrau cerdded a beicio newydd yn ddiweddar ger yr ysgolion hyn.

Cwblhawyd y llwybrau newydd yn Nhreforys, Clydach a Bôn-y-maen ar ôl i Gyngor Abertawe lwyddo i sicrhau cyllid Teithio Llesol. Bwriedir i'r llwybrau ddarparu gwell cysylltiadau ar gyfer cerdded a beicio ac annog pawb i ystyried cerdded a beicio yn lle defnyddio car.

Yng Nghlydach, mae dros 1.5km o lwybr halio ar hyd Camlas Tawe wedi'i wella i ddarparu llwybr defnydd a rennir diogel i gerddwyr a beicwyr.

Mae llwybr newydd 1.8km o hyd ar hyd glannau afon Tawe hefyd wedi'i gwblhau ger Treforys ac mae llwybr 900 metr o hyd ychwanegol wedi'i greu ar hyd Clasemont Road sy'n cysylltu â rhan sydd eisoes yn bodoli ar hyd yr A48.

Mae llwybr 700 metr o hyd hefyd wedi'i adeiladu ar hyd Jersey Road ym Môn-y-maen (rhwng cyffordd Carmel Road a Cwm Chapel Road).

Dyluniwyd y pedwar llwybr gan y cyngor yn unol â chanllawiau Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac fe'u hadeiladwyd gan gontractwyr lleol - Ian Davies Plant, T Richard Jones (TRJ) ac Evan Pritchard.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r llwybrau cerdded a beicio diweddaraf hyn sydd newydd eu cwblhau yn hynod fuddiol i gymunedau lleol. Rydym yn gwneud popeth y gallwn i annog rhagor o bobl i ddefnyddio'r llwybrau hyn a'u helpu i aros yn iach.

"Mae'n wych ein bod yn gallu gweithio gydag ysgolion lleol ym mhob un o'r cymunedau a helpu i roi'r anogaeth y mae ei hangen ar blant ifanc i fod yn hyderus ar feic, gan obeithio y byddant yn adeiladu ar y profiad hwnnw'n ddiweddarach mewn bywyd.

"Rwy'n falch iawn hefyd fod y contractwyr sydd wedi'n cynorthwyo i gyflawni'r cynlluniau hyn wedi rhoi'r offer hyn i'r ysgolion."

Yn fwy diweddar, mae'r cyngor wedi sicrhau a chymeradwyo gwerth mwy nag £8 miliwn o gyllid LlC ar gyfer y rownd Teithio Llesol nesaf a chaiff hyd yn oed mwy o lwybrau cerdded a beicio eu datblygu yn ystod y 12 mis nesaf.

Bydd rhan o'r cyllid yn helpu i greu llwybr newydd 2.4km o hyd ar draws Comin Clun, gan helpu i gysylltu cymunedau yng Ngŵyr â glan môr Bae Abertawe.

Bwriedir creu llwybr newydd oddi ar y ffordd hefyd rhwng Penllergaer a Fforest-fach, a fydd yn ymestyn am 2.8km drwy goed Penllergaer.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Unwaith eto, rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sicrhau'r arian hwn fel y gallwn barhau i ddatblygu'r llwybrau pwysig hyn. Ein nod yw creu rhwydwaith cwbl gysylltiedig o lwybrau cerdded a beicio rhwng cymunedau cyfagos.

"Y gobaith yw y byddant yn galluogi teuluoedd i fod yn llai dibynnol ar fynd o gwmpas Abertawe mewn car. Ar yr un pryd, gall pobl ddod yn iachach a chael hwyl hefyd."

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2022