Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofalwyr di-dâl yn cael eu hannog i beidio â cholli cyfle am grant gwerth £500

Mae gofalwyr di-dâl a allai fod yn gymwys am grant untro o £500 ond sydd wedi colli dyddiad cau'r mis diwethaf ar gyfer cofrestru wedi derbyn ail gyfle.

swansea from the air1

Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi talu £1,676,000 i dros 3,300 o ofalwyr di-dâl.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ailagor cofrestriadau ar gyfer y grant ac mae hynny'n golygu y gall unrhyw un nad ydyw wedi gwneud cais eto wneud hynny erbyn 2 Medi.

Nid yw'n grant newydd ac nid oes angen i unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais wneud hynny eto. Yn Abertawe amcangyfrifir bod tua 950 o ofalwyr di-dâl pellach nad ydynt wedi achub ar y cyfle eto i wneud cais am grant Llywodraeth Cymru sy'n cael ei weinyddu gan y cyngor.

Rhaid i unrhyw un sy'n meddwl ei fod efallai'n gymwys ar gyfer y taliad gyflwyno cais am y grant ar-lein ar wefan Cyngor Abertawe: www.abertawe.gov.uk/grantiofalwyrdidal

Ailagorodd y dudalen cyflwyno ceisiadau, sy'n cynnwys gwybodaeth am y sawl sy'n gymwys ai peidio, ar 15 Awst.  Rhaid cwblhau cofrestriadau ar gyfer y grant erbyn 5pm ar 2 Medi.

Close Dewis iaith