Toglo gwelededd dewislen symudol

Y ddinas yn targedu problem gwm cnoi

Mae Cyngor Abertawe yn bwriadu targedu'r broblem gwm cnoi ar balmentydd ar draws y ddinas.

chewing gum

Mae'r cyngor wedi derbyn rhan o'r £1.25 miliwn sy'n cael ei gynnig i ddinasoedd a threfi ledled y DU fel y gallant fynd i'r afael â sbwriel gwm cnoi a'r effaith mae'n ei chael ar yr amgylchedd.

Mae'r cynllun yn rhan o fenter ddiweddaraf y llywodraeth i ddelio â'r broblem a chaiff ei gydlynu gan yr elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod y gost flynyddol o lanhau gwm cloi i gynghorau yn y DU yn agos i £7 miliwn.

Ymysg y dinasoedd eraill sy'n rhan o'r cynllun y mae Exeter, Birmingham a Glasgow.

Yn Abertawe, bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i brynu cyfarpar gwaredu gwm diwydiannol y gellir ei ddefnyddio mewn ardaloedd siopa cymunedol prysur gan gynnwys Treforys a Sgeti.

Mae gwasanaethau cael gwared ar gwm cnoi wedi bod ar waith yng nghanol y ddinas ers nifer o flynyddoedd drwy gytundeb partneriaeth â BID Abertawe.

Bydd y cyllid a ddarperir i'r cyngor yn cael ei ddefnyddio hefyd i osod arwyddion sy'n annog y cyhoedd i roi eu gwm cnoi yn y bin a pheidio â'i daflu ar y llawr.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, "Bydd y fenter hon yn chwarae rhan yn ein hymrwymiad i lanhau cymunedau a mynd i'r afael â phroblemau sbwriel lle bynnag maent yn bodoli.

"Mae sbwriel gwm cnoi wedi bod yn broblem ers tro i drefi a dinasoedd o gwmpas y wlad, gan adael llwybrau wedi'u gorchuddio â gwm sy'n anodd iawn cael gwared arno.

"Ers nifer o flynyddoedd rydym wedi gweithio gyda BID Abertawe i fynd i'r afael â phroblemau gwm cnoi yng nghanol y ddinas ac mae hyn wedi arwain at welliant yng ngolwg ein hardaloedd cyhoeddus.

"Rydym am allu ehangu'r gwasanaeth hwn i rannau eraill o'r ddinas. Bydd y cyllid rydym wedi llwyddo i'w gael yn ein galluogi i brynu cyfarpar arbenigol a all lanhau staeniau gwm cnoi ac y gellir ei ddefnyddio drwy Abertawe i gyd."

Meddai Allison Ogden-Newton OBE, Prif Weithredwr Keep Britain Tidy, "Mae hwn yn gyfle newydd cyffrous i gynghorau fynd i'r afael â phroblem barhaus llygredd gwm cnoi.

"Bydd y grantiau'n caniatáu i gynghorau lanhau hen gwm cnoi sy'n difwyno'n trefi a'n dinasoedd, yn ogystal â chymryd camau i atal pobl rhag taflu sbwriel yn y lle cyntaf."

 

Close Dewis iaith