Toglo gwelededd dewislen symudol

Sioe deithiol sy'n rhoi cyngor ar ynni ar y ffordd i gymunedau Abertawe

​​​​​​​Yn dilyn penderfyniad Ofgem i godi'r cap ar bris ynni, mae tîm Hwb Ymwybyddiaeth Ynni Abertawe wedi cyhoeddi cyfres o sioeau teithiol cymunedol am ddim ym mis Medi sy'n agored i bawb.

Gas Hob

Gas Hob

Ariennir y fenter gan Gronfa Adfywio Economaidd Cyngor Abertawe a bydd y sioeau teithiol yn cynnig cefnogaeth synnwyr cyffredin i'r rheini sy'n chwilio am ffyrdd o leihau'r defnydd o ynni yn y cartref i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.

Mae digwyddiadau cymunedol ym mis Medi yn cynnwys nifer yn Nhreforys, Gorseinon, Clydach, Pen-lan a chanol y ddinas.

Yn ogystal, bydd Canolfan yr Amgylchedd yng nghanol y ddinas yn cynnal sgyrsiau ymwybyddiaeth ynni am ddim ddydd Mercher 14 Medi rhwng 12pm ac 1pm, (ar-lein yn unig) a dydd Mawrth 27 Medi rhwng 4pm a 5pm yn y ganolfan yn Pier Street. Cadw lle:www.bit.ly/SwanseaEnergyTalks

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae'r cyngor yn parhau i helpu'r rheini sy'n agos at fyw mewn tlodi - ac mae ein hwb ynni yn adnodd newydd pwysig iddyn nhw ac eraill sydd am gadw biliau ynni mor isel â phosib a chadw eu cartrefi'n gynnes."

Meddai Rhian Corcoran, rheolwr Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, "Mae rhwydwaith o arbenigwyr yn cefnogi'n harweiniad, ac mae ar gael i helpu pwy bynnag sydd ei angen. Gall unrhyw un sy'n pryderu am eu costau tanwydd eu hunain neu berthynas alw heibio i un o'n hymweliadau lleol a chael sgwrs gyfrinachol â'n tîm."

Mae partneriaid a chefnogwyr Hwb Ymwybyddiaeth Ynni Abertawe'n cynnwys y gweithredwr ynni Western Power Distribution, National Energy Agency, yr arbenigwyr tlodi ynni, Cymru Gynnes, adrannau'r cyngor, elusen ieuenctid Swansea MAD, EON Energy, City Energy ac YES Energy Solutions.

Mae digwyddiadau cymunedol am ddim sydd ar ddod yn cynnwys:

  • Llyfrgell Treforys - Dydd Iau 8 a 22 Medi - 10am-4pm
  • Llyfrgell Gorseinon - Dydd Iau 15 a 9 Medi, 10am-4pm
  • Llyfrgell Clydach - Dydd Gwener 6 Medi, 10am-4pm a dydd Mercher 28 Medi, 10am-2pm
  • Banc Bwyd Pen-lan (Canolfan Gymunedol De Pen-lan) - Dydd Gwener 9 a 23 Medi, 10am-12pm.
  • Hwb Cyflogadwyedd y Cwadrant - Dydd Mawrth 20 Medi, 10am-2pm

Rhagor: www.abertawe.gov.uk/cyswlltSwitchedOn

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Medi 2022