Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfr Cydymdeimlo wedi'i agor ar gyfer pobl Abertawe

Mae Llyfr Cydymdeimlo wedi cael ei agor yn Abertawe y bore yma fel y gall aelodau'r cyhoedd dalu teyrnged i EM y Frenhines.

The Queen - DMCS

Mae'r llyfr ar gael yn y Ganolfan Ddinesig o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm ac ar fore dydd Sadwrn o 9am tan ganol dydd. Gall preswylwyr hefyd lofnodi'r llyfr cydymdeimlo ar-lein yma: www.abertawe.gov.uk/llyfrcydymdeimlad?lang=cy

Gellir gadael teyrngedau blodeuol yn y Rotwnda yn Neuadd y Ddinas yn ystod y cyfnod galaru cenedlaethol, a fydd yn parhau tan angladd Ei Mawrhydi yn Abaty San Steffan.

Bydd y cyngor hefyd yn goleuo Neuadd y Ddinas yn borffor gyda'r hwyr fel arwydd o barch drwy gydol y cyfnod.

Bydd y Proclamasiwn swyddogol i nodi marwolaeth Ei Mawrhydi ac Esgyniad y Brenin Charles III i'r orsedd yn cael ei gynnal yn Llundain yfory, sef dydd Sadwrn. Yn dilyn hyn bydd proclamasiwn lleol ar risiau Neuadd y Ddinas ddydd Sul. Gwahoddir y cyhoedd i'r digwyddiad byr a chaiff manylion ynghylch amser dechrau'r digwyddiad eu cyhoeddi nes ymlaen.

Mae seremoni goffa yng Ngardd Fabanod Abertawe ym Mynwent Treforys a oedd wedi'i threfnu ar gyfer dydd Sul wedi cael ei gohirio. Caiff dyddiad newydd ei gyhoeddi maes o law.