Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd yn gymwys ar gyfer taliad cymorth tanwydd o £200

Mae miloedd o deuluoedd yn y ddinas yn cael eu hannog i wneud cais am daliad cymorth tanwydd o £200 i'w helpu drwy'r argyfwng costau byw.

View of Swansea

Gall tua 21,000 o aelwydydd cymwys ddisgwyl i lythyrau oddi wrth y cyngor ddod drwy eu blychau llythyrau dros y dyddiau nesaf, yn cynnig cyfle iddynt gofrestru ar gyfer y taliad.

Bydd y cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at unrhyw drefniadau cap prisiau ynni Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn San Steffan, ac unrhyw daliadau tanwydd gaeaf a wneir i bensiynwyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Bydd y cynllun yn fyw am 9am ddydd Llun 26 Medi a rhaid i aelwydydd cymwys wneud cais erbyn 5pm ar 28 Chwefror 2023.

Amcangyfrifwyd y gall tua 25,000 o aelwydydd yn Abertawe hawlio'r taliad i'w helpu i fynd i'r afael â chost biliau tanwydd cynyddol, ac mae'n cynnwys y rheini sy'n defnyddio tanwyddau oddi ar y grid fel olew neu nwy sy'n cael eu danfon i'w cartrefi mewn lori.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, y byddai'r rheini sy'n gymwys ar gyfer y grant yn cael eu talu cyn gynted â phosib.

Meddai, "Mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob un ohonom. Mae'n rhaid i lawer o aelwydydd wneud penderfyniadau anodd o ran sut i gynhesu eu cartrefi a bwydo'u teuluoedd.

"Rydym wedi ysgrifennu at 21,000 o aelwydydd yr ydym yn credu eu bod yn gymwys ar gyfer y taliadau, yn ôl yr wybodaeth sydd gennym eisoes, a byddwn yn eu hannog i wneud cais gyn gynted â phosib fel y gallwn eu talu.

"Ond rydym yn gwybod y bydd gan bobl eraill na allwn eu nodi hawl i'r taliad hefyd, a dylai unrhyw un nad yw'n derbyn llythyr ond sy'n meddwl y gall fod yn gymwys ar gyfer y taliad fynd i'n gwefan am ragor o wybodaeth."

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae pob un ohonom yn gwybod mai'r gaeaf yw'r adeg waethaf ar gyfer biliau tanwydd, ac eleni mae wedi bod yn waeth byth i deuluoedd sydd dan bwysau ac sy'n gweithio'n galed oherwydd y cynnydd cyffredinol mewn costau tanwydd.

"Dyna pam rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu talu cyn gynted â phosib. Ni ddylai teuluoedd byth fod mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt ddewis rhwng talu biliau tanwydd cynyddol neu roi bwyd ar y bwrdd, yn enwedig yn ystod y gaeaf.

"Mae'n hanfodol bod pobl yn gwneud cais am y grant. Os nad ydynt yn gwneud hynny, ni allwn eu talu. Ni fyddwn yn gallu derbyn ceisiadau hwyr ychwaith.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Drwy gydol y pandemig, roedd Cyngor Abertawe yno i bobl, busnesau a chymunedau Abertawe, gan eu cefnogi drwy amserau digynsail.

"Byddwn hefyd yn cerdded ochr yn ochr â nhw drwy'r argyfwng costau byw."

Yr aelwydydd sy'n gymwys i wneud cais dan y cynllun yw'r aelwydydd hynny lle mae gan y person sy'n gyfrifol am dalu'r biliau tanwydd ar gyfer ei gartref, neu ei bartner, hawl i un neu fwy o amrywiaeth o fudd-daliadau ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023.

Mae'r rhain yn cynnwys Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm, Credyd Cynhwysol, Credydau Treth Gwaith, Credydau Treth Plant, Credyd Pensiwn neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, ond mae budd-daliadau eraill sy'n golygu bod pobl yn gymwys. Mae'n bosib y bydd gan bobl hawl i'r taliad hefyd os oes oedolion eraill neu blant yn byw gyda nhw sy'n derbyn budd-daliadau penodol.

Mae rhagor o fanylion am y cynllun, y ffurflen gais ar-lein a chwestiynau cyffredin ar gael ar wefan y cyngor: https://www.abertawe.gov.uk/cymorthtanwydd?lang=cy

Mae unrhyw un sy'n gymwys i wneud cais am Daliad Cymorth Tanwydd Gaeaf, p'un a anfonir gwahoddiad iddo hawlio'r taliad ai peidio, yn gallu defnyddio'r ffurflen i wneud cais. 

Close Dewis iaith