Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfleusterau Parc Sglefrfyrddio yn Abertawe yn barod ar gyfer gwaith gwella

Bydd cyfleusterau sglefrfyrddio mewn parc yn Abertawe yn cael eu hailwampio fel rhan o ymdrechion parhaus y cyngor i wella cyfarpar chwarae.

skate park upgrade

Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi'i gynlluniau i adolygu'r cyfleusterau sglefrfyrddio sydd eisoes yn bodoli ac maent yn ceisio denu ymgynghorydd a fydd yn gallu gweithio gyda'r cyngor ar brosiect cyffrous.

Mae asesiad cychwynnol eisoes wedi'i gwblhau ar nifer o safleoedd o amgylch y ddinas lle ceir cyfleusterau sglefrfyrddio a BMX - gan gynnwys Parc Melin Mynach, Parc Coed Bach a Chyfadeilad Chwaraeon yr Elba.

Mae llawer o'r safleoedd yn cynnwys hanner pibellau sy'n heneiddio a rampiau sydd wedi dirywio oherwydd tywydd garw. Mae llwybrau mewn rhai lleoliadau hefyd yn cael eu defnyddio'n anffurfiol gan feiciau BMX

Mae'r cyngor bellach am gynnal adolygiad manylach o'r holl leoliadau hyn i gadarnhau'r defnydd ohonynt a'r dichonoldeb ar gyfer gwelliannau. Efallai bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried edrych ar leoliadau newydd ar gyfer sglefrfyrddio a defnyddio beiciau BMX.

Mae'r cynlluniau diweddaraf yn dilyn gwelliannau a wnaed yn ddiweddar ym Mharc Victoria lle mae buddsoddiad wedi galluogi i'r cyfarpar sglefrfyrddio gael ei wella.

Meddai Robert Francis Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod yr adolygiad sglefrfyrddio yn rhan o addewidion ymrwymiadau polisi'r cyngor y cytunwyd arno ym mis Mehefin, a addawodd wneud cynnydd ar amrywiaeth o flaenoriaethau sydd o bwys i bobl Abertawe o fewn 100 niwrnod. 

Ychwanegodd, "Mae pob un o'n hardaloedd chwarae yn Abertawe'n cael eu gwella ar hyn o bryd gyda buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd. Mae hyn yn sicrhau bod plant ifanc a theuluoedd yn gallu mwynhau chwarae diogel ledled Abertawe.

"Rydym yn cydnabod bod sglefrfyrddio, beicio BMX a chwaraeon eraill ar olwynion hefyd yn weithgareddau poblogaidd iawn gyda phlant hŷn ac oedolion.

"Ein nod yn awr yw cynnal adolygiad manwl o'r hyn sydd gennym yn y ddinas o ran y math hwn o ddarpariaeth chwaraeon.

"Y cam cyntaf fydd recriwtio ymgynghorwyr sydd ag arbenigedd yn y maes hwn a'u cyflogi i arwain y prosiect.

"Byddwn hefyd yn ystyried ymgynghori â chymunedau, ysgolion a grwpiau eraill i geisio'u barn."

Mae'r cyngor yn gobeithio dechrau'r gwaith cwmpasu a dechrau cyfnod ymgynghori erbyn diwedd 2022 a chwblhau'r gwelliannau erbyn 2024.

Hysbysebwyd 'Hysbysiad Gwybodaeth Flaenorol' (PIN) ar wefan GwerthwchiGymru yn https://www.sell2wales.gov.wales/search/Search_AuthProfile.aspx?ID=AA0254

 Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, "Byddwn yn annog unrhyw un ag arbenigedd yn y maes hwn i gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion yn y PIN ar GwerthwchiGymru neu drwy e-bostio Diwylliant.Hamdden@abertawe.gov.uk fel y gallwn symud y prosiect hwn ymlaen cyn gynted â phosib."