Timau glanhau newydd y ddinas yn cael eu hanfon i gymunedau yn Abertawe
Mae tîm newydd sbon o staff glanhau'n teithio o gwmpas Abertawe, gan ymwneud ag amrywiaeth eang o faterion i helpu i dacluso cymunedau.
Bwriad y cynllun newydd yw rhoi cyfle i gynghorwyr ym mhob ward gyfeirio timau i'r ardaloedd yn eu cymunedau yr hoffent eu tacluso.
Mae Cyngor Abertawe wedi lansio gwasanaeth newydd fel rhan o ymrwymiad a wnaed yn gynharach eleni pan restrodd lu o flaenoriaethau i wneud Abertawe'n ddinas well i breswylwyr a busnesau.
Mae popeth, gan gynnwys torri gwair, casglu sbwriel, clirio sbwriel a dipiwyd yn anghyfreithlon a thocio perthi sydd wedi gordyfu ar y rhestr o ddyletswyddau y bydd y tîm newydd yn eu cyflawni.
Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, y bydd y Tîm Gweithredol Glanhau Wardiau wedi'i neilltuo'n benodol i lanhau strydoedd y tynnwyd sylw atynt gan gynghorwyr a phreswylwyr.
Meddai, "Bydd y cynllun newydd yn dibynnu'n fawr ar gyfranogaeth preswylwyr a chynghorwyr ward a all ddarparu gwybodaeth i'r tîm am y problemau y maen nhw'n teimlo y mae angen mynd i'r afael â nhw.
"Bydd pob ward yn Abertawe'n elwa o'r gwasanaeth newydd hwn a byddant yn treulio rhai diwrnodau ym mhob cymuned ac yn gweithio'n galed i wella ardaloedd.
"Er bod gennym dimau glanhau rheolaidd sy'n gweithio'n galed i lanhau ardaloedd cyhoeddus fel ardaloedd siopau a pharciau lleol, bydd y timau newydd hyn yn ymdrin ag ardaloedd yn y gymuned nad ydynt yn cael eu glanhau mor aml fel rhan o'r gwaith glanhau rheolaidd rydyn ni'n ei gyflawni.
"Bydd fel y tîm PATCH hynod boblogaidd sy'n gwneud gwaith tebyg ar gyfer gwelliannau ac atgyweiriadau ffyrdd.
"Ein nod yw darparu tîm ymateb sy'n gwella ar yr hyn rydyn ni eisoes yn ei wneud."