Rhagor o dai cyngor yn dod i Abertawe
Mae set o gartrefi cyngor cynaliadwy newydd yn cael eu datblygu mewn cymuned yn Abertawe.
Mae'r chwe byngalo dwy ystafell wely'n cael eu hadeiladu ar dir y cyngor yn West Cross ar safle a adwaenir fel The Circle.
Mae'r cartrefi cyngor newydd diweddaraf hyn i'w datblygu gan Gyngor Abertawe'n rhan o gynllun ehangach i gyflwyno tai cyngor newydd yn y ddinas a helpu i fynd i'r afael â'r problemau digartrefedd a nodwyd yn yr ardal.
Mae'r cartrefi tra chyfoes yn cael eu hariannu drwy grant gan Lywodraeth Cymru ynghyd ag arian a gasglwyd drwy ffïoedd rhent y cyngor.
Yn ystod y pandemig, sicrhaodd y cyngor fwy na £5.4 miliwn gan LlC i ddarparu hyd at 80 o unedau yn y ddinas i fynd i'r afael â digartrefedd. Mae peth o'r arian hwn (£763,000) yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r chwe byngalo newydd.
Mae rhagor o gyllid o'r Rhaglen Tai Arloesol hefyd yn cael ei fuddsoddi fel y gall cartrefi newydd elwa o dechnoleg arbed ynni gan gynnwys storfeydd batri, gwresogi ffynhonnell daear, ceudodau mwy mewn waliau a phaneli solar.
Mae'r cartrefi'n cael eu hadeiladu gan dîm Gwasanaethau Adeiladu'r cyngor ac maent hefyd wedi cyflogi prentisiaid a fydd yn gallu datblygu sgiliau newydd wrth weithio gyda dulliau adeiladu sy'n ymwneud ag ynni modern.
Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Unwaith eto, mae'r cyngor wedi dechrau ar daith i ddod a rhagor o gartrefi cyngor newydd i Abertawe.
"Dyma'r cynllun diweddaraf ac mae'n dilyn cynlluniau ym Mlaen-y-maes, Gellifedw a'r Clâs, lle'r ydym wedi cwblhau nifer o gartrefi lle mae tenantiaid yn elwa o filiau ynni llai.
"Ar ôl ymweld yn ddiweddar â'r safle newydd yn West Cross, rwyf wrth fy modd â'r cynnydd a wnaed ac yn hyderus y bydd y cartrefi newydd hyn yn darparu llety rhagorol i breswylwyr yn ein dinas.
"Mae'r cyngor wedi gwneud ymrwymiad difrifol i fynd i'r afael â digartrefedd yn Abertawe a sicrhau bod cartref gan bawb.
"Ynghyd â'r gwasanaethau eraill rydym yn eu darparu, bydd y cartrefi newydd hyn yn West Cross yn ein cynorthwyo i leihau digartrefedd a hefyd sicrhau nad yw tenantiaid yn cael eu llethu â biliau ynni uchel yn ystod yr argyfwng cyfredol parhaus ac wedi hynny."
Mae rhan o'r datblygiad hefyd yn cynnwys creu wal derfyn fawr sy'n amgylchynu'r chwe eiddo. Crëwyd y wal drwy ddefnyddio cerrig a gloddiwyd o gynllun adeiladu tai cynharach yn y Clâs.
Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Rhan o'n hathroniaeth wrth greu cartrefi newydd yw gwneud yn fawr o'r cyllid sydd gennym a hefyd edrych ar ffyrdd i ailddefnyddio deunyddiau o safleoedd eraill.
"Mae'r wal derfyn yn The Circle yn rhan hanfodol o'r datblygiad a hefyd yn nodwedd atyniadol y tu ôl i'r eiddo. Rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud defnydd da o'r deunyddiau a adferwyd o'n datblygiadau eraill."
Mae'r cyngor yn gobeithio cwblhau'r cynllun diweddaraf yn West Cross erbyn diwedd y flwyddyn.