Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth biniau sbwriel newydd a'r nod o lanhau Abertawe

Mae biniau clyfar newydd sy'n dweud wrthych pryd maent yn llawn yn cael eu treialu yn Abertawe.

litter bin

Mae'r dechnoleg newydd yn rhan o Strategaeth Biniau Sbwriel newydd y disgwylir i Gyngor Abertawe'i chymeradwyo sy'n cynnwys ystod o fesurau i wella'r ddarpariaeth biniau sbwriel yn y ddinas a hefyd ymdrin â phroblemau sbwriel.

Bydd synwyryddion arbennig sydd wedi'u gosod yn y biniau sbwriel yn anfon signal i Wasanaeth Glanhau'r cyngor i roi gwybod iddynt fod angen eu gwacáu.

Bwriedir profi'r synwyryddion biniau ar hyn o bryd ym marina Abertawe.

Mae'r cyngor hefyd yn ystyried archwilio lleoliadau presennol y biniau sbwriel a biniau baw cŵn i asesu eu defnydd a'u cyflwr ac a oes angen gosod rhai newydd yn eu lle.

Bydd y strategaeth hefyd yn canolbwyntio ar finiau gwastraff cŵn coch, ac mae cynlluniau tymor hir i gael gwared â nhw'n raddol a gosod biniau mwy yn eu lle y gellir eu defnyddio ar gyfer sbwriel a baw cŵn.

Mae'r cynlluniau newydd yn rhan o addewid y cyngor i greu amgylchedd glanach i bawb ac annog preswylwyr i ymfalchïo yn eu cymuned.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae gwacáu a chynnal a chadw biniau sbwriel yn y ddinas yn dasg enfawr ac yn un sy'n hanfodol o ran cadw cymunedau'n lan.

"Mae angen strategaeth arnom sy'n edrych ar ddarlun cyffredinol o'r hyn rydym yn ei wneud, pa mor aml y caiff biniau eu gwacáu, pa rai sy'n llenwi gyflymaf ac ym mha gyflwr y maent.

"Rwy'n awyddus ein bod yn croesawu'r dechnoleg gyfoes newydd sydd ar gael y gellir ei rhoi ar waith i roi gwybod i ni pryd mae'r biniau'n llawn ac angen eu gwacáu.

"Mae biniau gorlawn yn aml yn rhoi'r argraff i'r cyhoedd nad ydym yn eu gwacáu'n rheolaidd, ac nid yw hyn yn wir. Mae ffactorau fel tywydd da yn gallu annog mwy o bobl i fynd allan a gall hyn arwain at finiau sbwriel yn llenwi'n gyflym.

"Mae ein strategaeth newydd yn ystyried ein harferion gweithio'n gyffredinol yn ogystal â sut mae'r cyhoedd yn defnyddio biniau.

"Rydym am gael dinas lân y mae preswylwyr yn ymfalchïo ynddi. Y gobaith yw y bydd y strategaeth newydd yn ein helpu i gyflawni'r nodau hyn a sicrhau nad oes sbwriel ar ein traethau, yn ein parciau ac ar ein strydoedd."

Yn gynharach yn y flwyddyn, cyflwynodd y cyngor finiau newydd ar draethau, yn benodol ar gyfer cael gwared ar farbeciws tafladwy. Y diben oedd annog y cyhoedd i ddefnyddio'r biniau yn lle gadael y barbeciws ar draethau, gan fentro niwed i'r cyhoedd.

Bydd y biniau barbeciws pwrpasol yn cael eu storio dros y gaeaf ac yn cael eu hailosod yn 2023 pan fydd tymor yr haf yn dechrau.