Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau cyffrous ar gyfer un o safleoedd y cyngor sy'n heneiddio yn Abertawe

Gofynnir i breswylwyr sy'n byw mewn datblygiad tai sy'n heneiddio yn Abertawe fynegi eu barn am gynlluniau newydd i adfywio'r stad.

Tudno redev

Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi cynlluniau cynnar ar gyfer adfywio stad Heol Emrys a Tudno Place ym Mhen-lan.

Y nod yw adfywio'r stad drwy foderneiddio eiddo presennol y cyngor, ac adeiladu rhagor o dai rhentu cymdeithasol a chreu cymuned fwy diogel i bawb sy'n byw yno.

Mae'r cyngor wedi gweithio'n agos gyda'r ymgynghorwyr Powell Dobson Architects i greu'r prif gynllun ar gyfer y safle ac maent bellach yn galw ar breswylwyr i gymryd rhan a helpu i lunio'r ailddatblygiad arfaethedig.

Cynhelir arddangosfa yng Nghanolfan Hamdden Pen-lan lle gall preswylwyr weld y cynigion a siarad â swyddogion tai'r cyngor am y cynlluniau.

Bydd rhan o'r cynllun yn cynnwys adnewyddu'r tu mewn a'r tu allan i holl eiddo'r cyngor, gan gynnwys gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd a thirlunio'r ardal a chreu ardal chwarae newydd.

Mae llawer o'r dyluniad presennol wedi'i ddatblygu, gan ystyried sylwadau a wnaed gan y preswylwyr yn ystod ymgynghoriad cynharach.

Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Rydym bellach mewn sefyllfa i gyflwyno'n cynlluniau diweddaraf ar gyfer y stad i'n tenantiaid. Rwy'n hyderus y byddant yn ei ystyried yn welliant enfawr i'w cymuned. Mae ganddyn nhw nawr y cyfle i fod yn rhan o'r gwaith hwn i wella'u cartrefi a byddant yn gallu gweld y cynlluniau a gofyn cwestiynau am y cynigion."

Mae cynigion ychwanegol yn cynnwys ychwanegu rhagor o gartrefi at y safle i gynyddu lefelau tai cyngor yn ardal Pen-lan a chynorthwyo gyda lleihau digartrefedd.

 Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Mae'r cyngor eisoes wedi adeiladu cartrefi cyngor newydd yn y ddinas i gynyddu'n stoc tai ein hunain a fydd yn ei dro'n ein helpu i leihau amserau aros i'r rheini sy'n chwilio am lety cyngor.

"Bydd y cynlluniau diweddaraf ar gyfer Heol Emrys a Tudno Place yn arwain at gynyddu nifer yr eiddo yn y gymuned fel y gallwn ddarparu llety modern a diogel i deuluoedd."

Gall preswylwyr sy'n byw yn Heol Emrys a Tudno Place fynd i sesiwn galw heibio arbennig ddydd Iau 20 Hydref yng Nghanolfan Hamdden Pen-lan, rhwng 1pm a 6.30pm.

Gellir gweld byrddau arddangos a fideo o'r awyr o'r datblygiad arfaethedig yma hefyd: https://www.asbriplanning.co.uk/public-engagement/tudno-and-emrys-estate-in-penlan-swansea-stad-tudno-ac-emrys-penlan-abertawe/

 

Close Dewis iaith