Lansio Apêl y Pabi ym marchnad canol y ddinas
Bydd preswylwyr y ddinas yn talu teyrnged i'r rheini yn y Lluoedd Arfog sydd wedi gwasanaethu eu gwlad yn dilyn lansiad i nodi canmlwyddiant Apêl y Pabi eleni ym Marchnad Abertawe.
Dewiswyd y lleoliad yng nghanol y ddinas i nodi dechrau'r fenter codi arian flynyddol sy'n cefnogi gwasanaethau aelodau presennol a blaenorol y Lluoedd Arfog.
Roedd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mike Day a Wendy Lewis, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y cyngor, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Louise Fleet a chynrychiolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol yn bresennol yn y ddau ddigwyddiad.
Mae digwyddiad Distawrwydd yn y Sgwâr hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer eleni ar 11 Tachwedd, yn ogystal â Gwasanaeth y Cofio yn Eglwys y Santes Fair ar 13 Tachwedd. Bydd hyn yn ychwanegol i ddigwyddiadau cymunedol niferus a gynhelir gan gyn-filwyr, eu teuluoedd a'u cefnogwyr mewn cymunedau ar draws Abertawe.
Meddai'r Cynghorydd Day, "Mae llawer o bobl leol wedi gwneud yr aberth eithaf dros y blynyddoedd, gan roi eu bywydau fel y gallwn fwynhau'r rhyddid y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Byddwn yn annog pawb i roi yr hyn y gallant ei roi i'r apêl ac i wisgo'u pabi gyda balchder."
Meddai'r Cyng. Lewis, "Mae gan gymunedau yn Abertawe dreftadaeth falch o wasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Mae ein cefnogaeth ar gyfer aelodau blaenorol a phresennol y Lluoedd Arfog yn barhaus ac yn digwydd drwy gydol y flwyddyn. Ond mae Apêl y Pabi yn rhoi'r cyfle i ni i gyd ddiolch i'r Lleng Brydeinig Frenhinol ac i bawb sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu."
Bydd pabïau ar werth mewn nifer o leoliadau'r cyngor o gwmpas y ddinas, gan gynnwys sawl llyfrgell, Neuadd y Ddinas a'r Ganolfan Ddinesig.
Meddai Phillip Flower, Cadeirydd y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Abertawe, "Mae digwyddiadau coffa wedi bod yn brofiad personol iawn i gyn-filwyr, ein ffrindiau, ein teuluoedd a'n cefnogwyr. Ni fydd eleni'n wahanol.
"Mae'r pabi wedi bod yn arwyddlun ac wedi hybu gwaith codi arian ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol ers 101 o flynyddoedd. Mae'n arbennig mewn sawl ffordd oherwydd ei fod yn ein hatgoffa o'r pabïau yn Flanders, lle collodd gynifer o bobl eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf."