Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybr cerdded a beicio newydd yn agor opsiynau i breswylwyr Abertawe

Mae llwybr cerdded a beicio newydd yn cael ei ddatblygu mewn cymuned yn Abertawe.

active travel

Mae cannoedd o breswylwyr sy'n byw ym Mharc Bryn Heulog ger Gellifedw wedi'u gorfodi ers blynyddoedd i gerdded mewn un cyfeiriad yn unig wrth adael y stad oherwydd diffyg palmant ar hyd y ffordd.

Bydd y cynlluniau diweddaraf i greu llwybr cerdded a beicio newydd ar hyd Ynysallan Road yn ei gwneud hi'n bosib nawr i breswylwyr sy'n gadael Herbert Thomas Way, fynd i'r cyfeiriad arall, i Ynystawe, ar gefn beic neu ar droed.

Bydd rhieni sy'n byw yn y lleoliad â phlant sy'n mynd i ysgolion yn Ynystawe o'r diwedd yn gallu cerdded a beicio yn lle defnyddio'r car.

Dyfarnwyd cyllid ar gyfer y llwybr mawr ei angen hwn drwy fenter Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac mae'n rhan o grant gwerth £7 miliwn a ddyfarnwyd i'r cyngor yn dilyn ceisiadau llwyddiannus i ddatblygu a darparu amrywiaeth o welliannau cerdded a beicio ledled y ddinas.

Mae'r gwaith ar Ynysallan Road yn rhan o becyn gwaith o'r enw 'Cysylltiadau Cwm Tawe', sy'n cynnwys ehangiad i'r gwelliannau cerdded a beicio diweddar drwy Dreforys, gan ddarparu gwell cysylltiadau i lwybrau presennol ar hyd afon Tawe.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rwy'n hyderus y bydd y llwybr cerdded a beicio newydd o fudd mawr i breswylwyr sy'n byw ym Mharc Bryn Heulog.

"Un palmant yn unig oedd ar Ynysallan Road a hwnnw'n mynd i un cyfeiriad o'u cymuned, gan eu hatal rhag cerdded i gymunedau cyfagos fel Ynystawe lle gallai rhai plant fod yn mynychu ysgolion lleol yno.

"Bydd y palmant defnydd a rennir newydd bellach yn rhoi dewis ychwanegol i breswylwyr i gerdded i ba gyfeiriad bynnag y dymunant."

Roedd dwsinau o blant ysgol wedi helpu i agor llwybr cerdded a beicio arall yn ddiweddar, a grëwyd ar hyd hen linell rheilffordd segur ger Pengelli.

Mae'r llwybr 1.8km rhwng Pengelli a Phontarddulais yn cysylltu â rhan o lwybr sydd eisoes yn bodoli, ac mae bellach yn ei gwneud hi'n bosib i breswylwyr beicio a cherdded yr holl ffordd i Fae Abertawe heb ddefnyddio prif ffordd.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o'r achlysur diweddar i agor y llwybr newydd ym Mhengelli. Mae'n ased mawr i'r gymuned ac mae'n darparu llawer o fanteision i bobl leol yn ogystal â'r rheini sy'n byw mewn rhannau eraill o'r ddinas sydd am ddefnyddio'r llwybr."

Close Dewis iaith